Neidio i'r cynnwys

Tom Lawrence

Oddi ar Wicipedia
Tom Lawrence
Ganwyd13 Ionawr 1994 Edit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Taldra175 centimetr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auYeovil Town F.C., Leicester City F.C., Manchester United F.C., Carlisle United F.C., Rotherham United F.C., Blackburn Rovers F.C., C.P.D. Dinas Caerdydd, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 17 oed, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 19 oed, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 21 oed, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, Everton F.C., Derby County F.C. Edit this on Wikidata
Safleblaenwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Chwaraewr pêl-droed o Gymru yw Tom Lawrence (ganwyd Thomas Morris Lawrence 13 Ionawr 1994). Mae'n chwarae i Perth Glory yn yr A-League Men a thîm cenedlaethol Cymru.

Gyrfa clwb

[golygu | golygu cod]

Manchester United

[golygu | golygu cod]

Yn wreiddiol, roedd Lawrence yn rhan o Academi Everton, ond symudodd i Manchester United yn naw mlwydd oed ac arwyddodd gytundeb proffesiynol gyda'r clwb yn 2012[1].

Ym mis Tachwedd 2013 aeth ar fenthyg i Carlisle United gan wneud ei ymddangosiad llawn cyntaf yn erbyn Swindon Town ar 30 Tachwedd 2013[2]. A chafodd gyfnod ar fenthyg gyda Yeovil Town ym mis Ionawr 2014 cyn dychwelyd i Manchester United ym mis Mai 2014[3].

Gwnaeth Lawrence ei ymddangosiad cyntaf i Manchester United ar 6 Mai 2014 mewn buddugoliaeth 3-1 dros Hull City gyda'r rheolwr dros-dro, a'i gyd Gymro, Ryan Giggs, yn cymryd ei le pan gafodd Lawrence ei elyddio wedi 70 munud.[4].

Caerlŷr

[golygu | golygu cod]

Ymunodd Lawrence â Chaerlŷr ar 2 Medi 2014 gan arwyddo cytundeb pedair blynedd[5] ond cyn ymddangos i'w glwb newydd cafodd ei fenthyg i Rotherham United yn y Bencampwriaeth[6]. Sgoriodd un gôl mewn chwe ymddangosiad i Rotherham cyn dychwelyd i Gaerlŷr. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gaerlŷr ar 3 Ionawr 2015 yng Nghwpan FA Lloegr yn erbyn Newcastle United[7]

Gyrfa ryngwladol

[golygu | golygu cod]

Ar 22 Mai 2014 cafodd ei alw i garfan Cymru am y tro cyntaf ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Yr Iseldiroedd.[8] a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Andorra ar 13 Hydref 2015[9].

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Six young pros sign pro forms". manutd.com. 2012-07-05.
  2. "Swindon Town 3-1 Carlisle Utd". bbc.co.uk. 2013-11-30.
  3. "Manchester United boss Ryan Giggs to cast eye over Tom Lawrence after Yeovil Town loanee returns north". 2014-05-01. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-02. Cyrchwyd 2014-05-22.
  4. "Man Utd 3-1 Hull City". bbc.co.uk. 2014-05-06.
  5. "Leicester sign Man Utd youngsters Nick Powell and Tom Lawrence". BBCSport. 2014-09-02.
  6. "Rotherham sign Tom Lawrence and Scott Wootton on loan". BBC Sport. 2014-11-27.
  7. "Leicester 1-0 Newcastle". BBC Sport. 2015-01-03.
  8. "Bale yng ngharfan Cymru". s4c.co.uk. 2014-05-22.
  9. "Wales 2-0 Andorra". WelshFootballOnline. WelshFootballOnline.