Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. Gweler y dudalen sgwrs am ragor o wybodaeth. |
![]() | |||
Conffederasiwn | UEFA (Ewrop) | ||
---|---|---|---|
Hyfforddwr | Craig Bellamy | ||
Mwyaf o Gapiau | Gareth Bale (111) | ||
Prif sgoriwr | Gareth Bale (41) | ||
Cod FIFA | WAL | ||
Safle FIFA | 24 (24 Hydref 2019)[1] | ||
Safle FIFA uchaf | 8 (Hydref 2015) | ||
Safle FIFA isaf | 117 (Awst 2011) | ||
Safle Elo | 30 (18 Hydref 2019) [2] | ||
Safle Elo uchaf | 3 (1876~1885) | ||
Safle Elo isaf | 88 (Mawrth 2011) | ||
| |||
Gêm ryngwladol gynaf | |||
![]() ![]() (Glasgow; 26 Mawrth 1876) | |||
Y fuddugoliaeth fwyaf | |||
![]() ![]() (Wrecsam; 3 Mawrth 1888) | |||
Colled fwyaf | |||
![]() ![]() (Glasgow; 23 Mawrth 1878) | |||
Cwpan FIFA y Byd | |||
Ymddangosiadau | 2 (Cyntaf yn 1958) | ||
Canlyniad gorau | Rownd Go-gynderfynol, 1958 | ||
Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop | |||
Ymddangosiadau | 2 (Cyntaf yn 2016) | ||
Canlyniad gorau | Rownd Gyn-derfynol, 2016 | ||
Gwefan | faw.cymru/cy/ |
Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru (Saesneg: Wales national football team) yw'r tîm sy'n cynrychioli Cymru mewn pêl-droed dynion ar lefel ryngwladol. Rheolir y tîm gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
Tîm Cymru yw'r trydydd hynaf o holl dimau pêl-droed cenedlaethol y byd. Chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn yr Alban ar 25 Mawrth 1876 yn Glasgow. Chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf yng Nghymru ar y Cae Ras, Wrecsam ar 5 Mawrth 1877, eto yn erbyn yr Alban.
Mae Cymru wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol prif bencampwriaethau'r byd pêl-droed ddwywaith, sef Cwpan y Byd Pêl-droed 1958 a phencampwriaeth Ewro 2016. Llwyddodd Cymru hefyd i gyrraedd rownd yr wyth olaf o Bencampwriaethau Ewrop 1976, sef y flwyddyn olaf y cafodd y gystadleuaeth honno ei chynnal dros ddau gymal. Yn 2022, curodd Cymru dîm Wcráin, gan gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, cyfnod o 64 o flynyddoedd.
Yn Ebrill 2013, agorodd Parc y Ddraig, Canolfan Datblygu Pêl-droed Cenedlaethol Cymru, yng Nghasnewydd.
Hanes
[golygu | golygu cod]Y Blynyddoedd Cynnar
[golygu | golygu cod]Chwaraeodd Cymru ei gêm gystadleuol gyntaf ar 25 Mawrth 1876 yn erbyn yr Alban yn Glasgow gan ei gwneud y trydydd tîm pêl-droed rhyngwladol hyna'n y byd. Yr Alban enillodd y gêm gyntaf 4-0. Trefnwyd gêm gyfatebol yng Nghymru y flwyddyn ganlynol ac felly y cafwyd y gêm bêl-droed ryngwladol gyntaf ar dir Cymru, ar Gae Ras Wrecsam ar 5 Mawrth 1882. Enillodd yr Alban eto, 2-0 y tro hwn. Roedd y gêm gyntaf yn erbyn Lloegr yn 1879 pan welwyd Cymru'n colli 2-1 yn Kennington Oval, Llundain ac yn 1882 wynebodd Cymru Iwerddon am y tro cyntaf gan ennill 7-1 yn Wrecsam.
Cyfarfu cynrychiolwyr y pedair gwlad ym Manceinion ar 6 Ragfyr 1882 i greu rheolau a thrwy hyn sefydlwyd Bwrdd y Cymdeithasau Pêl-droed Rhyngwladol. Yn 1883-84 ffurfiwyd Pencampwriaeth Cartref Prydain, twrnameint a chwaraewyd yn flynyddol rhwng Lloegr, yr Alban, Iwerddon a Chymru hyd 1983-84. Bu Cymru'n bencampwr 12 gwaith.
Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed 2014
[golygu | golygu cod]Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp A ar gyfer gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 ynghyd â Croatia, Serbia, Gwlad Belg, yr Alban a Macedonia. Ni lwyddodd Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd, gan orffen yn bumed yn y grŵp rhagbrofol.
Gemau Rhagbrofol Ewro 2016
[golygu | golygu cod]Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp B ar gyfer gemau Rhagbrofol Ewro 2016 ynghyd ag Andorra, Gwlad Belg, Bosnia-Hertsegofina, Cyprus ac Israel. Ar 10 Hydref 2015, er colli yn erbyn Bosnia-Hertsegofina, llwyddodd Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016, gan fod Cyprus wedi curo Israel. Dyma'r tro cyntaf i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol twrnamaint pêl-droed rhyngwladol ers Cwpan y Byd Pêl-droed 1958.[3] Gorffennodd Cymru yn ail yn y grŵp ar ôl curo Andorra o 2-0 yng Nghaerdydd ar 13 Hydref 2015.[4]
Tîm | Ch | E | Cyf | Coll | Dros | Y/e | +/- | P |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
10 | 7 | 2 | 1 | 24 | 5 | +19 | 23 |
![]() |
10 | 6 | 3 | 1 | 11 | 4 | +7 | 21 |
![]() |
10 | 5 | 2 | 3 | 17 | 12 | +5 | 17 |
![]() |
10 | 4 | 1 | 5 | 16 | 14 | +2 | 13 |
![]() |
10 | 4 | 0 | 6 | 16 | 17 | -1 | 12 |
![]() |
10 | 0 | 0 | 10 | 4 | 36 | -32 | 0 |
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl | |
---|---|
Symud ymlaen i brif gemau Ewro 2016 | |
Symud ymlaen i'r gemau ail-gyfle |
Rowndiau Terfynol Ewro 2016
[golygu | golygu cod]Ar 12 Rhagfyr 2015, tynnwyd enwau y timau i chwarae yn rowndiau terfynol Ewro 2016. Gosodwyd Cymru yng ngrŵp B, ynghyd â Lloegr, Rwsia a Slofacia.[5]
Ar 20 Mehefin 2016, llwyddodd Cymru i ennill Grŵp B, a chyrraedd rownd yr 16 olaf yng nghystadleuaeth Ewro 2016 wedi iddynt guro Rwsia o dair gôl i ddim.[6]
Tîm | Ch | E | Cyf | Coll | Dros | Y/E | +/- | P |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
3 | 2 | 0 | 1 | 6 | 3 | +3 | 6 |
![]() |
3 | 1 | 2 | 0 | 3 | 2 | +1 | 5 |
![]() |
3 | 1 | 1 | 1 | 3 | 3 | 0 | 4 |
![]() |
3 | 0 | 1 | 2 | 2 | 6 | -4 | 1 |
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl | |
---|---|
Symud ymlaen i'r 16 olaf | |
Posibilrwydd o gyrraedd yr 16 olaf (os yn un o'r pedwar tîm trydydd safle gorau) |

Ar 22 Mehefin, cyhoeddwyd y byddai Cymru yn wynebu Gogledd Iwerddon ym Mharis ar 25 Mehefin 2016 yn rownd yr 16 olaf. Enillodd Cymru y gêm 1-0, gan sicrhau eu lle yn y rownd go-gynderfynol.[7] Enillodd Cymru'r rownd honno o 3-1 yn erbyn Gwlad Belg[8], gan sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol cystadleuaeth bêl-droed ryngwladol am y tro cyntaf erioed. Portiwgal oedd gwrthwynebwyr Cymru yn y rownd gynderfynol. Nid oedd Ben Davies nac Aaron Ramsey yn gallu chwarae oherwydd gwaharddiad, wedi iddynt dderbyn dau gerdyn melyn yr un yn ystod y gystadleuaeth. Cafwyd gêm agos, ond colli 2-0 fu hanes Cymru, gan roi terfyn ar y freuddwyd o gyrraedd y rownd derfynol.[9]
Dychwelodd carfan Cymru a'r tîm hyfforddi i Gymru ar 8 Gorffennaf 2016. Ar ôl glanio ym Maes Awyr Caerdydd, teithiodd y garfan i Gastell Caerdydd, lle roedd torfeydd o filoedd yn aros i'w croesawu. Teithiodd y chwaraewyr ar fws to agored drwy ganol y brifddinas, gan orffen yn Stadiwm Dinas Caerdydd, lle cynhaliwyd cyngerdd gan amrywiol artistiaid, gan gynnwys y Manic Street Preachers a Kizzy Crawford.[10]
Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed 2018
[golygu | golygu cod]Yn dilyn eu llwyddiant yng Ngemau Rhagbrofol Ewro 2016, gosodwyd Cymru ymhlith y deg tîm gorau yn y Byd yn rhestr safleoedd FIFA am y tro cyntaf erioed ym mis Gorffennaf 2015. Golygodd hynny fod Cymru ymhlith y detholion uchaf ar gyfer dewis y grwpiau ar gyfer Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed 2018. Fe dynnwyd enwau'r timau ar 25 Gorffennaf 2015 yn St Petersburg, Rwsia. Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp D ynghyd ag Awstria, Serbia, Gweriniaeth Iwerddon, Moldofa a Georgia.[11]
Tîm | Ch | E | Cyf | Coll | Dros | Y/E | +/- | P |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
10 | 6 | 3 | 1 | 20 | 10 | +10 | 21 |
![]() |
10 | 5 | 4 | 1 | 12 | 6 | +6 | 19 |
![]() |
10 | 4 | 5 | 1 | 13 | 6 | +7 | 17 |
![]() |
10 | 4 | 3 | 3 | 14 | 12 | +2 | 15 |
![]() |
10 | 0 | 5 | 5 | 8 | 14 | -6 | 5 |
![]() |
10 | 0 | 2 | 8 | 4 | 23 | -19 | 2 |
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl | |
---|---|
Symud ymlaen i brif gemau Cwpan y Byd Pêl-droed 2018 | |
Symud ymlaen i'r gemau ail-gyfle |
Cynghrair y Cenhedloedd UEFA 2018-19
[golygu | golygu cod]Fe osodwyd Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yng Ngrŵp 4, Cynghrair B y gystadleuaeth gychwynnol Cynghrair y Cenhedloedd UEFA yn 2018-19. Ynghyd ag Gweriniaeth Iwerddon a Denmarc.[12]
Tîm | Ch | E | Cyf | Coll | Dros | Y/E | +/- | P |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
4 | 2 | 2 | 0 | 4 | 1 | +3 | 8 |
![]() |
4 | 2 | 0 | 2 | 6 | 5 | +1 | 6 |
![]() |
4 | 0 | 2 | 2 | 1 | 5 | -4 | 2 |
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl | |
---|---|
Dyrchafiad i Gynghrair A Cynghrair y Cenhedloedd UEFA | |
Gostwng i Gynghrair C Cynghrair y Cenhedloedd UEFA |
Gemau Rhagbrofol Ewro 2020
[golygu | golygu cod]Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp E ar gyfer gemau Rhagbrofol Ewro 2020 ynghyd ag Aserbaijan, Croatia, Hwngari a Slofacia. Fe fydd y ddau dîm fydd ar frîg y tabl ar ddiwedd y rowndiau rhagbrofol yn symud yn uniongyrchol i rowndiau terfynol Ewro 2020.
Tîm | Ch | E | Cyf | Coll | Dros | Y/e | +/- | P |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
8 | 5 | 2 | 1 | 17 | 7 | +10 | 17 |
![]() |
8 | 4 | 2 | 2 | 10 | 6 | +4 | 14 |
![]() |
8 | 4 | 1 | 3 | 13 | 11 | +2 | 13 |
![]() |
8 | 4 | 0 | 4 | 8 | 11 | -3 | 12 |
![]() |
8 | 0 | 1 | 7 | 5 | 18 | -13 | 1 |
Cywir ar 19 Tachwedd 2019
Allwedd i liwiau'r tabl | |
---|---|
Symud ymlaen i brif gemau Ewro 2020 |
Canlyniadau Diweddar a Gornestau'r Dyfodol
[golygu | golygu cod]Chwaraewyr
[golygu | golygu cod]Carfan ddiweddaraf
[golygu | golygu cod]Enwodd Rob Page y tîm 26-dyn ar y gêmau yn erbyn De Corea a Latfia ym mis Medi 2023.
Capiau a goliau yn dilyn 3 Medi 2023
|
Chwaraewyr eraill a alwyd i'r garfan yn ddiweddar
[golygu | golygu cod]
|
Prif sgorwyr
[golygu | golygu cod]Cywir ar 2 Chwefror 2025 (Mae'r chwaraewyr sy'n dal i chwarae mewn print trwm):
# | Enw | Goliau | Capiau | Cyfartaledd |
---|---|---|---|---|
1 | Gareth Bale | 41 | 111 | 0.4 |
2 | Ian Rush | 28 | 73 | 0.38 |
3 | Trevor Ford | 23 | 38 | 0.61 |
Ivor Allchurch | 23 | 68 | 0.34 | |
5 | Dean Saunders | 22 | 75 | 0.29 |
6 | Aaron Ramsey | 21 | 86 | 0.24 |
7 | Craig Bellamy | 19 | 78 | 0.27 |
8 | Robert Earnshaw | 16 | 59 | 0.27 |
Cliff Jones | 16 | 59 | 0.22 | |
Mark Hughes | 16 | 72 | 0.27 |
Mwyaf o Gapiau
[golygu | golygu cod]Cywir ar 2 Chwefror 2025 (Mae'r chwaraewyr sy'n parhau i chwarae mewn print trwm):
# | Enw | Gyrfa | Capiau | Goliau |
---|---|---|---|---|
1 | Gareth Bale | 2006–2022 | 111 | 41 |
2 | Chris Gunter | 2007-2022 | 109 | 0 |
Wayne Hennessey | 2007– | 109 | 0 | |
4 | Ben Davies | 2012- | 92 | 2 |
Neville Southall | 1992–1997 | 92 | 0 | |
6 | Aaron Ramsey | 2008– | 86 | 21 |
Ashley Williams | 2008–2019 | 78 | 19 | |
8 | Gary Speed | 1990-2004 | 85 | 7 |
9 | Craig Bellamy | 1998-2013 | 78 | 19 |
10 | Joe Ledley | 2005-2018 | 77 | 4 |
Chwaraewyr Eraill gyda 50 neu fwy o gapiau
[golygu | golygu cod]Cywir ar 2 Chwefror 2025 (Mae'r chwaraewyr sy'n parhau i chwarae mewn print trwm):
Rheolwyr
[golygu | golygu cod]- Rhestrir rheolwyr dros dro yn italig.
Cyn 1954 roedd tîm Cymru yn cael ei ddewis gan banel o ddewiswyr, gyda'r capten yn chwarae rôl hyforddwr.
Walley Barnes (1954–1955)
Jimmy Murphy (1956–1964)
Dave Bowen (1964–1974)
Ron Burgess (1965)
Mike Smith (1974–1979)
Mike England (1979–1987)
David Williams (1988)
Terry Yorath (1988–1993)
John Toshack (1994)
Mike Smith (1994–1995)
Bobby Gould (1995–1999)
Neville Southall (1999)
Mark Hughes (1999–2004)
John Toshack (2004–2010)
Brian Flynn (2010)
Gary Speed (2010–2011)
Chris Coleman (2012–2017)
Ryan Giggs (2018–2022)
Robert Page (2020–2024)[13]
Craig Bellamy (2024-)[14]
Nodiadau
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru
- Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 21 Cymru
- Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 20 Cymru
- Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 19 Cymru
- Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 18 Cymru
- Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 17 Cymru
- Tîm futsal cenedlaethol Cymru
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Safleoedd FIFA". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-26. Cyrchwyd 2015-07-04.
- ↑ Safleoedd ELO
- ↑ BBC Cymru
- ↑ Golwg360
- ↑ BBC Cymru
- ↑ "Cymru ar y ffordd i Baris". BBC Cymru. 2016-06-20. Cyrchwyd Mehefin 2016. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "Cymru 1-0 Gogledd Iwerddon: Cyrraedd yr 8 olaf". BBC Cymru. 2016-06-26. Cyrchwyd Mehefin 2016. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "Cymru v Gwlad Belg – fel digwyddodd". The Guardian. 2016-07-01. Cyrchwyd Gorffennaf 2016. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "Cymru allan o Euro 2016 wedi colled yn erbyn Portiwgal". BBC Cymru. 2016-07-06. Cyrchwyd Gorffennaf 2016. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "Croeso'n ôl i Garfan Cymru". BBC Cymru. 2016-07-08. Cyrchwyd Gorffennaf 2016. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "Cwpan y Byd 2018: Cymru'n dechrau'r ymgyrch yn erbyn Moldofa". Golwg360. 2015-07-26. Cyrchwyd Awst 2015. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ . BBC Cymru. 2017-10-11 Cynghrair y Cenhedloedd: Ail haen i Gymru https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/41580531: Cynghrair y Cenhedloedd: Ail haen i Gymru Check
|url=
value (help). Cyrchwyd Hydref 2018. Check date values in:|accessdate=
(help); Missing or empty|title=
(help)[dolen farw] - ↑ "Rob Page i adael ei swydd fel rheolwr Cymru". BBC Cymru Fyw. 2024-06-21. Cyrchwyd 2024-06-21.
- ↑ "Penodi Craig Bellamy yn rheolwr newydd Cymru". BBC Cymru Fyw. 2024-07-09. Cyrchwyd 2024-07-09.
|