Streic Gyffredinol y Deyrnas Unedig 1926

Oddi ar Wicipedia
Mwynwyr Tyldesley tu allan Neuadd y Mwynwyr yn ystod y streic

Streic gyffredinol a barodd am naw niwrnod, o 4 Mai, 1926 tan 13 Mai, 1926 oedd Streic Gyffredinol y Deyrnas Unedig 1926. Galwyd y streic gan gyngor cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) mewn ymgais aflwyddiannus i orfodi llywodraeth Prydain i weithredu er mwyn atal lleihau cyflogau ac i wella amodau gwaith glöwyr. Bu i oddeutu 1.7 miliwn o weithwyr streicio, yn enwedig yn y diwydiant cludiant a nwyddau trwm. Ond cyflogwyd nifer o wirfoddolwyr dosbarth canol i wneud y gwaith a chynnal lefel y gwasanaethau. Prin oedd y trais a welwyd a rhoddodd y TUC y ffidil yn y to. Yn y tymor hir, ni chafodd y streic fawr o effaith ar weithgaredd yr undebau llafur na diwydiant.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Baner Y Deyrnas UnedigEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes y Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am y mudiad llafur. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.