Parc Ninian

Oddi ar Wicipedia
Parc Ninian
Mathstadiwm pêl-droed, safle rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1 Medi 1910 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1910 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerdydd Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4747°N 3.2°W Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethC.P.D. Dinas Caerdydd Edit this on Wikidata

Hen faes pêl-droed yn ninas Caerdydd oedd Parc Ninian. Roedd yn eiddo i C.P.D. Dinas Caerdydd.

Adeiladwyd y stadiwm yn 1910, a chafodd ei enwi ar ôl yr Arglwydd Ninian Critchton-Stuart, mab trydydd Ardalydd Bute. Chwaraewyd nifer fawr o gemau rhyngwladol Cymru yma yn y gorffennol, a chynhaliodd y Pab Ioan Pawl II gyfarfod yma yn 1982.

Adeiladwyd stadiwm newydd ar gyfer C.P.D. Dinas Caerdydd gerllaw, sydd wedi bod yn gartref i'r clwb ers tymor 2009-2010. Chwaraewyd gêm gynghrair olaf Dinas Caerdydd ym Mharc Ninian ar 25 Ebrill 2009 yn erbyn Ipswich Town.