James Collins (pêl-droediwr, g. 1983)
Collins yn chwarae i West Ham United, Awst 2012 | |||
| Gwybodaeth Bersonol | |||
|---|---|---|---|
| Enw llawn | James Michael Collins[1] | ||
| Dyddiad geni | 23 Awst 1983[1] | ||
| Man geni | Casnewydd, Cymru | ||
| Taldra | 1.88m[2] | ||
| Safle | Amddiffynnwr | ||
| Gyrfa Ieuenctid | |||
| 1998–2000 | Dinas Caerdydd | ||
| Gyrfa Lawn* | |||
| Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
| 2000–2005 | Dinas Caerdydd | 66 | (3) |
| 2005–2009 | West Ham United | 54 | (2) |
| 2009–2012 | Aston Villa | 91 | (5) |
| 2012–2018 | West Ham United | 149 | (7) |
| 2019 | Ipswich Town | 6 | (0) |
| Cyfanswm | 404 | (19) | |
| Tîm Cenedlaethol | |||
| 2001 | Cymru dan 19 | 3 | (0) |
| 2002 | Cymru dan 20 | 2 | (0) |
| 2002–2004 | Cymru dan 21 | 8 | (0) |
| 2004–2016 | Cymru | 51 | (3) |
| * Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). | |||
Chwaraewr pêl-droed o Gymru yw James Collins (ganwyd James Michael Collins 23 Awst 1983). Mae'n chwarae i West Ham United yn Uwchgynghrair Lloegr a thîm cenedlaethol Cymru.
Gyrfa clwb
[golygu | golygu cod]Dinas Caerdydd
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Collins ei yrfa fel chwaraewr ifanc â Dinas Caerdydd yn Awst 2000 a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm cyntaf mewn gêm yng Nghwpan FA Lloegr yn erbyn Bristol Rovers yn Nhachwedd 2000[3]. Gwnaeth 86 ymddangosiad dros Gaerdydd gan sgorio chwe gôl[3] a chafodd ei enwebu'n Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2005[4].
West Ham United
[golygu | golygu cod]Ymunodd Collins â West Ham United yng Ngorffennaf 2005, ynghyd â'i gyd chwaraewr o Gaerdydd, Danny Gabbidon, wrth i Alan Pardew dalu £3.5m am y pâr.[4]. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Sheffield Wednesday yng Nghwpan Cynghrair Lloegr ar 20 Medi 2005[5] a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn Uwch Gynghrair Lloegr ar 29 Hydref 2005 yn erbyn Lerpwl[6]. Sgoriodd ei gôl gyntaf i West Ham mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Portsmouth ar Wŷl San Steffan, 2005.[7].
Ar 28 Ionawr 2008, dioddefodd Collins anaf difrifol mewn gêm i ail dîm West Ham welodd o allan o'r gêm am naw mis[8].
Aston Villa
[golygu | golygu cod]Ymunodd Collins ag Aston Villa ar 1 Medi 2009[9] gan wneud ei ymddangosiad cyntaf ar 13 Medi yn gêm ddarbi yn erbyn Birmingham City. Ym Mawrth 2011, cafodd Collins a'i gyd chwaraewr Richard Dunne eu dirwyo pythefnos o gyflog gan y rheolwr, Gérard Houllier, yn dilyn row "meddwol" gyda staff y clwb[10].
Dychwelyd i West Ham
[golygu | golygu cod]Ar 1 Awst 2012, ail ymunodd Collins â West Ham United ar gytundeb pedair blynedd[11].
Gyrfa ryngwladol
[golygu | golygu cod]Chwaraeodd Collins wyth o weithiau i dîm dan 21 Cymru gan arwain y tîm mewn gêm yn erbyn Yr Almaen dan 21 yn 2005[12].
Gwnaeth Collins ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Norwy yn 2004[13] ac roedd yn gapten ar ei wlad am y tro cyntaf yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Sweden ym Mawrth 2010[3].
Ymddeoliad
[golygu | golygu cod]Cyhoeddoedd ei ymddeoliad o bêl-droed ar 17 Hydref 2020. Yn 37 oed, nid oedd wedi chwarae ers gadael clwb Ipswich ym mis Mai 2019.[14]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Hugman, Barry J., gol. (2009). The PFA Footballers' Who's Who 2009–10. Mainstream Publishing. ISBN 978-1-84596-474-0.
- ↑ "Premier League Player Profile James Collins". Premier League. Barclays Premier League. 2015. Cyrchwyd 26 Ionawr 2015.[dolen farw]
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "Neville Southall tips James Collins as Wales captain". BBC Sport. 2011-01-11.
- ↑ 4.0 4.1 "Gabbidon voted top Welsh player". BBC Sport. 2005-10-04.
- ↑ "Sheffield Wednesday v West Ham United, 20 September 2005". www.11v11.com.
- ↑ "West Ham Statistics – James Collins". www.westhamstats.info.
- ↑ "Pompey 1–1 West Ham". BBC Sport. 2005-12-26.
- ↑ "Collins facing year on sidelines". Sky Sports News. 2008-01-28.
- ↑ "Collins completes move to Villa". BBC Sport. 2009-09-01.
- ↑ "Dunne and Collins are fined by Villa". Express & Star. 2011-03-18.
- ↑ "Hammers return for 'Ginge'". www.whufc.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-04. Cyrchwyd 2015-06-21.
- ↑ "Collins named Wales U-21 captain". BBC Sport. 2005-01-26.
- ↑ "Euro 2012: Gary Speed 'needs' James Collins for Wales". BBC Sport. 2011-10-07.
- ↑ James Collins yn ymddeol o bêl-droed yn 37 oed , BBC Cymru Fyw, 17 Hydref 2020.