Terry Yorath
| Terry Yorath | |
|---|---|
| Ganwyd | Terence Charles Yorath 27 Mawrth 1950 Caerdydd |
| Bu farw | 7 Ionawr 2026 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | pêl-droediwr, rheolwr pêl-droed |
| Taldra | 1.88 metr |
| Plant | Gabby Logan |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Bradford City A.F.C., Vancouver Whitecaps, Leeds United F.C., Tottenham Hotspur F.C., C.P.D. Dinas Abertawe, Coventry City F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru |
| Safle | chwaraewr canol cae |
| Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cyn chwaraewr a rheolwr pêl-droed o Gymru oedd Terry Yorath (ganwyd Terence Charles Yorath; 27 Mawrth 1950 – 7 Ionawr 2026).[1] Fe'i anwyd a'i fagwyd yng Nghaerdydd.
Chwaraeodd i Leeds United, Coventry City, Tottenham Hotspur, Vancouver Whitecaps, Bradford City, Dinas Abertawe a thîm cenedlaethol Cymru.
Ar ôl ymddeol o chwarae, daeth yn reolwr ar Bradford City, Dinas Abertawe, Dinas Caerdydd, Sheffield Wednesday, Cymru a Libanus.
Gyrfa clwb
[golygu | golygu cod]Leeds United
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Yorath ei brentisiaeth gyda Leeds United gan arwyddo cytundeb proffesiynol gyda'r clwb yn 17 mlwydd oed[2]. Ond fe'i cafodd yn anodd sicrhau ei le yn nhîm llwyddiannus Leeds, gyda'r rheolwr, Don Revie, yn ffafrio Billy Bremner a Johnny Giles.
Rhwng 1967 a 1972 dim ond 14 gêm chwaraeodd Yorath dros Leeds ond yn ystod tymor 1972-73 llwyddodd i sicrhau ei le yn y tîm gan chwarae yn rownd derfynol Cwpan FA 1973 ac yn rownd derfynol Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop UEFA yn erbyn A.C. Milan. Er colli'r ddwy rownd derfynol, llwyddodd Yorath i sicrhau medal y tymor canlynol wrth i Leeds gipio'r Bencampwriaeth ac ym 1975 daeth y Cymro cyntaf i chwarae yn rownd derfynol Cwpan Ewrop[3] ond colli oedd hanes Leeds yn erbyn Bayern Munich.
Coventry City
[golygu | golygu cod]Ym 1976, symudodd i Coventry City am £125,000[4] lle cafodd ei wneud yn gapten ar y clwb. Gorffennodd y Sky Blues yn seithfed yn yr Adran Gyntaf ym 1977-78, dim ond unwaith erioed mae'r clwb wedi gorffen mewn safle gwell. Treuliodd Yorath dair blynedd gyda'r clwb gan chwarae 99 gêm a sgorio tair gôl cyn symud i Tottenham Hotspur am £300,000 ym 1979[4].
Bradford City
[golygu | golygu cod]Ar ôl cyfnod yn chwarae yn yr NASL gyda Vancouver Whitecaps ymunodd â Bradford City fel chwaraewr/hyfforddwr. Cafodd ei anafu yn ystod Trychineb Tân Bradford wrth neidio allan o ffenestr ar ôl arwain cefnogwyr allan o far yn yr eisteddle oedd ar dân[5].
Gyrfa rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Casglodd Yorath y cyntaf o'i 59 cap dros Gymru yn erbyn Yr Eidal yn Rhufain ym 1969[6]. Cafodd y fraint o arwain ei wlad fel capten ar 42 achlysur.
Gyrfa rheoli
[golygu | golygu cod]Cymrodd yr awenau gyda Dinas Abertawe ym 1986 gan arwain y clwb i ddyrchafiad i'r Drydedd Adran ym 1987-88[7].
Ym 1989 cafodd ei benodi'n reolwr rhan amser ar Gymru gan barhau yn ei rôl gydag Abertawe. Gadawodd Abertawe er mwyn ail ymuno â Bradford ond wedi llai na blwyddyn wrth y llyw yn Valley Parade cafodd ei ddiswyddo a dychwelodd i Abertawe.
Ym 1991, wedi cyfnod siomedig, gadawodd Abertawe unwaith eto er mwyn canolbwyntio ar reoli Cymru. O dan reolaeth Yorath, sicrhaodd Cymru eu safle gorau erioed ar restr detholion FIFA ar 27 Awst 1993[8] a daeth Cymru o fewn trwch blewyn o gyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed 1994. Yn dilyn eu methiant, ni chafodd cytundeb Yorath ei adnewyddu a chafodd John Toshack, oedd ar y pryd yn reolwr ar Real Sociedad, ei benodi'n reolwr rhan amser. Ond ymddiswyddodd Toshack wedi dim ond un gêm - colled 3-1 yn erbyn Norwy gyda'r cefnogwyr yn y gêm yng Nghaerdydd yn bloeddio eu haniddigrwydd tuag at y Gymdeithas Bêl-droed yn dilyn diswyddiad Yorath[9].
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd Yorath yn dad i bedwar o blant - Daniel, Louise, Jordan a'r cyflwynydd chwaraeon Gabby Logan.[1]
Bu farw Daniel yn 1992 pan oedd yn 15 mlwydd oed. Roedd wedi bod yn chwarae pêl-droed yn yr ardd gyda'i dad pan gwympodd yn farw. Heb yn wybod iddo, roedd ganddo'r cyflwr cardiomyopathi hypertroffig sy'n effeithio'r galon. Ymgyrchodd ei deulu am sgrinio calon ar gyfer athletwyr ifanc sy'n chwarae'n rheolaidd ar lefel uchel, mewn ymgais i leihau'r risg.[10]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Terry Yorath, Hard Man, Hard Knocks (Caerdydd: Celluloid, 2004), hunangofiant
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Cyn-chwaraewr a rheolwr Cymru Terry Yorath wedi marw yn 75 oed", BBC Cymru Fyw, 8 Ionawr 2025; adalwyd 8 Ionawr 2025
- ↑ "Terry Yorath". League Managers' Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-02. Cyrchwyd 2015-02-16.
- ↑ "Hanes Cwpan Pencampwyr Ewrop". BBC Chwaraeon. 2007-05-23.
- ↑ 4.0 4.1 "Played for both: Coventry City footballers who have also turned out for Bradford City". Coventry Telegraph. 2014-08-08.
- ↑ "Gabby Logan's football star father 'lucky to be alive' after fleeing chip pan fire which destroyed his home". Daily Mail. 2011-09-07.
- ↑ "Rush job in Brescia the only Welsh win". Walesonline. 2002-10-14.
- ↑ "Yorath eyes promotion spot". WalesOnline. 2004-05-15.
- ↑ "FIFA: Wales rankings". FIFA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-20. Cyrchwyd 2015-02-16.
- ↑ Hughes, Dewi (12 November 2004). "Time for Toshack to deliver". BBC Sport. BBC. Cyrchwyd 2004-11-12.
- ↑ "Y cyflwynydd Gabby Logan yn galw am brofion ar y galon". BBC Cymru Fyw. 2022-02-03. Cyrchwyd 2026-01-09.