Ian Rush
Ian Rush | |||
| Gwybodaeth Bersonol | |||
|---|---|---|---|
| Enw llawn | Ian James Rush | ||
| Dyddiad geni | 20 Hydref 1961 | ||
| Man geni | Llanelwy, Cymru | ||
| Taldra | 5 tr 11 modf | ||
| Safle | Ymosodwr | ||
| Gyrfa Lawn* | |||
| Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
| 1978–1980 | Dinas Caer | 34 | (14) |
| 1980–1987 | Lerpwl | 224 | (139) |
| 1987–1988 | Juventus | 29 | (7) |
| 1988–1996 | Lerpwl | 245 | (90) |
| 1996–1997 | Leeds United | 42 | (3) |
| 1997–1998 | Newcastle United | 10 | (2) |
| 1998 | → Sheffield United (ar fenthyg) | 4 | (0) |
| 1998–1999 | Wrecsam | 17 | (0) |
| 1999–2000 | Sydney Olympic | 3 | (1) |
| Cyfanswm | 602 | (256) | |
| Tîm Cenedlaethol | |||
| 1980–1996 | Cymru[1] | 73 | (28) |
| Timau a Reolwyd | |||
| 2004–2005 | Dinas Caer | ||
| * Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). | |||
Cyn bêl-droediwr o Gymru yw Ian James Rush MBE (ganwyd 20 Hydref 1961). Chwaraeodd Rush i Lerpwl rhwng 1980-1987 a 1988-1996 ac mae'n brif sgoriwr yn holl hanes y clwb[2] wedi iddo rwydo 346 gôl yn ystod ei ddau gyfnod gyda'r clwb.
Yn ogystal â Lerpwl, chwaraeodd Rush dros Caer, Juventus, Leeds United, Newcastle United, Sheffield United, Wrecsam a Sydney Olympic.
Chwaraeodd 73 o weithiau dros dîm cenedlaethol Cymru a Rush yw'r prif sgoriwr yn holl hanes y tîm cenedlaethol gyda 28 gôl rhwng 1980 a 1996[3].
Ar ôl ymddeol fel chwaraewr yn 2000, cafodd gyfnod yn rheoli Caer rhwng 2004-05 ac mae o bellach yn Gyfarwyddwr Perfformiad Elît i Ymddiriedolaeth Pêl-droed Cymru[4].
Ar 25 Ebrill 2019 cyhoeddwyd bod stadiwm pêl-droed yn Lahore, Pakistan i gael ei enwi'n Stadiwm Ian Rush er anrhydedd i'r chwaraewr.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Alpuin, Luis Fernando Passo (20 February 2009). "Wales – Record International Players". Rec.Sport.Soccer Statistics Foundation. Cyrchwyd 5 August 2012.
- ↑ "Liverpool FC Records: Goals". Unknown parameter
|published=ignored (help) - ↑ "Welsh Football Online: Records". Unknown parameter
|published=ignored (help) - ↑ "Welcome from Ian Rush". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-25. Cyrchwyd 2015-05-26. Unknown parameter
|published=ignored (help) - ↑ Liverpool Echo Liverpool legend Ian Rush has football stadium named after him adalwyd 25 Ebrill 2019
| Rhagflaenydd: Ian Woosnam |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 1984 |
Olynydd: Steve Jones |