Neidio i'r cynnwys

Gerddi Sophia

Oddi ar Wicipedia
Gerddi Sophia
Mathparc Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4852°N 3.1901°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCyngor Caerdydd Edit this on Wikidata
Map

Parc cyhoeddus mawr ar lan orllewinol Afon Taf yng Nglan'rafon, Caerdydd, yw Gerddi Sophia. Cynhelir gemau criced prawf rhyngwladol a gemau criced sirol yma yn Stadiwm SWALEC, cartref Clwb Criced Morgannwg.[1]

Mae'r parc wedi'i leoli yn agos at ganol dinas Caerdydd ac mae wrth ymyl Parc Bute a Chaeau Pontcanna, sy'n rhan o 'ysgyfaint gwyrdd' y ddinas. Mae Gerddi Sophia wedi'i gysylltu â Pharc Bute gan bont droed y Mileniwm dros Afon Taf (1999). Yn ogystal â Maes Criced Sir Forgannwg, mae Gerddi Sophia yn gartref i Canolfan Chwaraeon Chwaraeon Cymru, tafarn o'r enw Bragdy a Chegin (Y Mochyn Du gynt), maes gwersylla, ardal arddangos a pharc ceir a bysiau, a hen dŷ'r warden.[2]

Enwyd y parc ar ôl Sophia Crichton-Stuart, Ardalyddes Bute, merch Ardalydd 1af Hastings a gwraig i 2il Ardalydd Bute. Roedd yr Arglwyddes Sophia yn awyddus i ddarparu man agored ar gyfer hamdden ar gyfer tref a oedd yn brysur ehangu ar ddiwedd y 19g; roedd gan ei gŵr ran fawr yn y datblygiad hwnnw. Gosodwyd y gerddi gan y pensaer Alexander Roos ar safle Fferm Plasturton yn 1854. Fe'u hagorwyd i'r cyhoedd gan yr Arglwyddes Sophia yn 1858, i wneud iawn am gau tiroedd Castell Caerdydd.[3] Estynnwyd y parc tua'r gogledd gan 28 erw o gwmpas y flwyddyn 1879.[4] Prynwyd y parc gan Gyngor Dinas Caerdydd – Corfforaeth Caerdydd bryd hynny – oddi wrth 5ed Ardalydd Bute yn 1947.[5]

Cynhaliwyd Sioe Ceffylau Caerdydd yn y parc ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g. Yn 1891 roedd y parc yn gartref i Sioe Gorllewin Gwyllt Buffalo Bill yn ystod ei daith o amgylch trefi ynysoedd Prydain.[6][7]

Adeiladwyd Pafiliwn Gerddi Sophia yn 1951 ar gyfer Gŵyl Prydain, ac fe'i defnyddiwyd fel lleoliad cyngerdd nes iddo ddymchwel dan eira trwm ym 1982.[8][9]

Y Mochyn Du yn 2014

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Cyngor Caerdydd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mawrth 2016. Cyrchwyd 26 Mai 2019.
  2. Pyke, Chris. "The grand derelict buildings currently for sale in Wales". Wales Online.
  3. "Sophia Gardens". Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2014.
  4. "Gerddi Sophia, Caerdydd, Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2016. Cyrchwyd 1 Mehefin 2014.
  5. "Parc Bute". Cardiff Castle. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mai 2019. Cyrchwyd 13 Ebrill 2015.
  6. Western Mail, 14 Medi 1891, t.1
  7. "Buffalo Bill Museum & Grave – Golden, Colorado" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 17 Ionawr 2016. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2015.
  8. "Sophia Gardens - Pavilion". Cardiffparks.org.uk. Cyrchwyd 1 Mehefin 2014.
  9. Misstear, Rachael. "Wales weather: Before St Jude Storm see some of the worst weather to hit country". WalesOnline. Media Wales. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2014.