Sophia Crichton-Stuart, Ardalyddes Bute

Oddi ar Wicipedia
Sophia Crichton-Stuart, Ardalyddes Bute
Ganwyd1 Chwefror 1809 Edit this on Wikidata
Bu farw28 Rhagfyr 1859 Edit this on Wikidata
Caeredin Edit this on Wikidata
TadFrancis Rawdon-Hastings Edit this on Wikidata
MamFlora Mure-Campbell Edit this on Wikidata
PriodJohn Crichton-Stuart, 2il ardalydd Bute Edit this on Wikidata
PlantJohn Crichton Stuart, 3ydd ardalydd Bute Edit this on Wikidata

Roedd Sophia Crichton-Stuart, Ardalyddes Bute (1 Chwefror 180928 Rhagfyr 1859), ganed Sophia Frederica Christina Rawdon-Hastings, yn ail wraig John Crichton-Stuart, 2il Ardalydd Bute, a mam John Crichton-Stuart, 3ydd Ardalydd Bute. Enwyd y Gerddi Sophia, yng Nghaerdydd, ar ôl yr Ardalyddes.[1]

Merch Flora Campbell, 6th Iarlles Loudoun, a'i gŵr Francis Rawdon-Hastings, Iarll Moira, oedd Sophia. Priododd yr Ardalydd, fel ei ail wraig, ar 10 Ebrill 1845 yng Nghastell Loudoun, yr Alban.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dic Mortimer (15 Hydref 2014). Cardiff The Biography. Amberley Publishing Limited. t. 173. ISBN 978-1-4456-4251-2. (Saesneg)