Stadiwm SWALEC
Jump to navigation
Jump to search
| |
Math |
lleoliad chwaraeon, maes criced ![]() |
---|---|
| |
Agoriad swyddogol |
1967 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad |
Caerdydd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.4872°N 3.1914°W ![]() |
![]() | |
Stadiwm criced yng Ngerddi Soffia, Caerdydd yw Stadiwm SWALEC. Y stadiwm yma yw prif gartref Clwb Criced Morgannwg.
Enw gwreiddiol y stadiwm oedd Gerddi Soffia, wedi ei enwi ar ôl y Fonesig Sophia Rawdon-Hastings, merch Francis Rawdon-Hastings, Marcwis 1af Hastings, a gwraig John Crichton-Stuart, Ail Farcwis Bute.
Mae Morgannwg wedi bod yn chwarae criced yma ers 1967, ar ôl symud o Barc yr Arfau. Ym 1995 cymerodd Morgannwg lês o 125 mlynedd arno. Ym 2007 dechreuwyd gwaith ar gynllun i ehangu'r stadiwm i'w wneud yn addas ar gyfer gemau criced rhyngwladol. Cynhaliwyd gêm un diwrnod rhwng Lloegr a De Affrica yma ar 3 Medi 2008, a chynhaliwyd Gêm Brawf rhwng Lloegr ac Awstralia yma ar 8-12 Gorffennaf 2009.