C.P.D. Bae Colwyn
![]() | |||
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Bae Colwyn | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) | Y Gwylanod | ||
Sefydlwyd | 1881 | ||
Maes | Ffordd Llanelian | ||
Cadeirydd |
![]() | ||
Rheolwr |
![]() | ||
Cynghrair | Cymru North | ||
|
Mae Clwb Pêl-droed Bae Colwyn yn glwb Pêl-droed, sy'n chwarae yng nghynghrair Cymru North. Maent yn chwarae ar Ffordd Llanelian, Hen Golwyn.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Chwaraeodd tîm yn cynrychioli Bae Colwyn eu gêm gyntaf yn Ionawr 1881. Ychydig a wyddir am hanes cynnar y Bae heblaw iddynt gystadlu yng Nghynghrair Pêl-droed Arfordir Gogledd Cymru o 1901 hyd y daeth y gystadleuaeth i ben yn 1921 pan ymunodd y rhan fwyaf o glybiau Cynghrair Cenedlaethol Cymru.
Yn 1984 penderfynodd y clwb i groesi'r ffin i chwarae yn Lloegr ac fe'i etholwyd yn aelod o Gynghrair y Bass North West Counties League.
Pan ffurfwyd Uwch Gynghrair Cymru fe ymgeisiodd y Cymdeithas Bel-Droed Cymru roi hwb i'r Gynghrair drwy orfodi fod pob Clwb Cymreig (Heblaw y tri clwb Proffesiynol) ymuno ag o. Gwrthododd Bae Colwyn, ymysg eraill, a rhaid oedd chwarae'u gemau 'cartref' yn Northwich ac Ellesmere Port. Ond ym Mis Ebrill 1995 fe enillwyd achos llys a olygodd eu bod yn cael dychwelyd i Ffordd Llanelian.
Fe gyrrhaeddodd y Clwb ail-rownd Cwpan FA Lloegr yn 1995-96 cyn colli o 2-0 yn erbyn Blackpool. Wnaethon nhw hefyd gyrraedd Rownd yr 8 olaf Tlws Lloegr yn 1996-97 cyn colli i Stevenage Borough.
Wedi 35 mlynedd yn chwarae yn Lloegr fe adawodd Bae Colwyn Adran Gyntaf y Gorllewin y Northern Premier i ymuno gyda cynghrair newydd Cymru North ar ddechrau tymor 2019-20. <ref> https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/48039474<ref>
Carfan bresennol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Yn gywir 28 Chwefror 2020
Nodyn: Diffinir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.
|
|
Allan ar fenthyg[golygu | golygu cod y dudalen]
Nodyn: Diffinir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.
|
Tîm Rheoli[golygu | golygu cod y dudalen]
Position | Name |
---|---|
Rheolwr | Craig Hogg |
Rheolwr Cynorthwyol | Mark Orme |
Hyffoddwr Golwyr | Michael Price |
Cyfarwyddwr Pêl-droed | Neil Coverley |
Cyfarwyddwr Academi | Chris Thompson |
Ffisio | Lisa Edwards |
Rheolwr Cit | Bryan Kelly |
Rheolwr Cit Cynorthwyol | John Ashley |
Cysylltiad allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol