Parc Latham

Oddi ar Wicipedia
Parc Latham
Mathstadiwm Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Siry Drenewydd Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.5115°N 3.3229°W Edit this on Wikidata
Map
Parc Latham
Golygfa o Barc Latham
Enw llawnParc Latham
LleoliadY Drenewydd, Powys
Uchafswm Torf5,000
Agorwyd1951
Tenantiaid
C.P.D. Y Drenewydd

Stadiwm chwaraeon yn nhref Y Drenewydd, Powys, ydy Parc Latham sy'n cael ei adnabod, am resymau nawdd, fel Paveways Parc Latham. Mae'n gartref i Glwb Pêl-droed Y Drenewydd ers y gêm agoriadol ar 21 Awst 1951 yn erbyn Aberystwyth.[1][2]

Mae'r maes wedi ei enwi ar ôl George Latham, brodor o'r Drenewydd oedd yn gyn chwaraewr rhyngwladol Cymru ac yn hyfforddwr ar dîm Caerdydd pan enillodd yr Adar Gleision Gwpan FA Lloegr ym 1927.[3]

Y stadiwm[golygu | golygu cod]

Ym 1979 cafodd Parc Latham lifoleadau er mwyn caniatau'r clwb i geisio am y fraint o gynnal gemau ieuenctid rhyngwladol a chafodd Wrecsam wahoddiad i chwarae gêm o dan y llifoleadau newydd er mwyn dathlu'r datblygiad.[1]

Cwblhawyd eisteddle newydd gyda 400 sedd yn ystod tymor 1997-98 er mwyn dod ag uchafswm torf y maes i 5,000[2] ac yn 2004 cafodd Y Drenewydd Drwydded Uefa ar gyfer cystadlu yng nghystadlaethau Uefa - y clwb cyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru i sicrhau'r drwydded.[4]

Yn 2013 cyhoeddodd y clwb eu bod wedi sicrhau arian gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i osod maes 3G ym Mharc Latham gyda'r maes yn cael ei osod mewn pryd ar gyfer tymor 2-14-15.[5]

Mae'r stadiwm yn dal uchafswm torf o 5,000 ond ar gyfer gemau yng nghystadlaethau Uefa mae'n rhaid cyfyngu'r uchafswm i'r 1,420 sedd.[6]

Gemau cofiadwy[golygu | golygu cod]

Cafwyd y torf uchaf erioed ar Barc Latham ar 28 Ionawr 1956 mewn gêm yng Nghwpan Cymru wrth i 5,004 wylio Abertawe yn curo Y Drenewydd 9-4.[7].

Mae Parc Latham wedi cynnal rownd derfynol Cwpan Cymru ar bedair achlysur, yn 2003-04, 2007-08, 2014-15 ac yn 2017-18 yn ogystal â phedair gêm yng nghystadlaethau Uefa.

Yn 2015-16 llwyddodd Y Drenewydd i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn Ewrop wrth drechu Valletta o Malta yn Rownd Rhagbrofol Gyntaf Cynghrair Europa ar Barc Latham.[6]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Keith Harding Selection". Penmon.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-17. Cyrchwyd 2016-04-01.
  2. 2.0 2.1 "Newtown AFC: Ground". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2016-04-01. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Manager hero of 1927 FA Cup win". BBC Cymru. Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Newtown AFC: About". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2016-04-01. Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Major Investment from FAW into 3G pitch at Newtown". Football Association of Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-12. Cyrchwyd 2016-04-01. Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. 6.0 6.1 "Y Drenewydd 2-1 Valletta". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "Programme & Cards". Penmon.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-30. Cyrchwyd 2016-04-01."Welsh Cup 1955-56". Welsh Football Data Archive.