Pêl-droed yng Nghymru 2015-16
| Pêl-droed yng Nghymru 2015-16 | |||
|---|---|---|---|
| Uwch Gynghrair Cymru | Y Seintiau Newydd | ||
| Cwpan Cymru | Y Seintiau Newydd | ||
| Cwpan Word | Y Seintiau Newydd | ||
| |||
Tymor 2015-16 oedd y 131ain tymor i dîm cenedlaethol Cymru, 24ain tymor yn hanes Uwch Gynghrair Cymru a'r 129fed tymor o Gwpan Cymru.
Llwyddodd Cymru i gyrraedd rownd gynderfynol Pencampwriaeth UEFA Euro 2016 cyn colli yn erbyn Portiwgal a llwyddodd Joe Allen ac Aaron Ramsey i ennill eu lle yn nhîm y bencampwriaeth gafodd ei ddewis gan UEFA[1].
Cwblhaodd Y Seintiau Newydd y trebl ddomestig wrth ennill y bencampwriaeth am y pumed tymor yn olynol yn ogystal â chodi Cwpan Cymru a Chwpan Word.
Timau Cenedlaethol Cymru
[golygu | golygu cod]Dynion
[golygu | golygu cod]Gyda Chris Coleman wrth y llyw, daeth Cymru â'u hymgyrch i gyrraedd Euro 2016 yn Ffrainc i ben gan orffen yn ail yn y grŵp a sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes[2]. Cymru oedd y pedwerydd detholyn yng Ngrŵp B[3] gyda Bosnia a Hertsegofina, Gwlad Belg, Israel, Cyprus ac Andorra hefyd yn y grŵp[4].
Ym mis Gorffennaf 2015 llwyddodd Cymru i sicrhau eu lle ymysg y 10 uchaf ar restr detholion FIFA am y tro cyntaf yn eu hanes[5] ac ym mis Hydref 2015, cyrhaeddodd Cymru eu safle uchaf erioed wrth gyrraedd rhif wyth ar y rhestr detholion[6].
Capiau Cyntaf
[golygu | golygu cod]Casglodd Tom Lawrence[7], Adam Henley[8] ac Owain Fôn Williams[8] eu capiau cyntaf dros Gymru yn ystod y tymor.
Canlyniadau
[golygu | golygu cod]| Euro 2016 Grŵp B Gêm 9 |
10 Hydref 2015 |
| Bosnia a Hertsegofina |
2 – 0 | |
|---|---|---|
| Djurić Ibišević |
(Saesneg) Manylion |
| Gêm Gyfeillgar | 13 Tachwedd 2015 |
| Cymru |
2 – 3 | |
|---|---|---|
| Ledley Huws |
(Saesneg) Manylion | Dost Robben |
Grŵp Rhagbrofol B yng ngemau rhagbrofol ar gyfer Euro 2016 yn Ffrainc
| Tîm | Ch | E | Cyf | C | + | - | GG | Pt | |
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| 1. | 10 | 7 | 2 | 1 | 24 | 5 | +19 | 23 | |
| 2. | 10 | 6 | 3 | 1 | 11 | 4 | +7 | 21 | |
| 3. | 10 | 5 | 2 | 3 | 17 | 12 | +5 | 17 | |
| 4. | 10 | 4 | 1 | 5 | 16 | 14 | +2 | 13 | |
| 5. | 10 | 4 | 0 | 6 | 16 | 17 | -1 | 12 | |
| 6. | 10 | 0 | 0 | 10 | 4 | 36 | -32 | 0 |
Merched
[golygu | golygu cod]Gyda Jayne Ludlow wrth y llyw, dechreuodd Cymru eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2017 yn Yr Iseldiroedd. Cymru yw'r trydydd detholyn yng Ngrŵp 8[9] gyda Norwy, Awstria, Israel a Casachstan hefyd yn y grŵp.
Canlyniadau
[golygu | golygu cod]| Euro 2017 Grŵp 8 Gêm 2 |
27 Hydref 2015 |
| Norwy |
4 – 0 | |
|---|---|---|
| Herlovsen Ad. Hegerberg Mjelde |
| Euro 2017 Grŵp 8 Gêm 5 |
12 Ebrill 2016 |
| Casachstan |
0 – 4 | |
|---|---|---|
| Green Ward |
Clybiau Cymru yn Ewrop
[golygu | golygu cod]Yng Nghynghrair y Pencampwyr, ymddangosodd Y Seintiau Newydd yn Ewrop am y 16ed tymor o'r bron. Ar ôl trechu B36 Tórshavn o Ynysoedd Ffaro, roedd angen amser ychwanegol ar Videoton o Hwngari i guro'r tîm o Groesosowallt yn yr ail rownd rhagbrofol.
Yng Nghyngrair Europa roedd Y Drenewydd yn cynrychioli Cymru yn Ewrop am y tro cyntaf ers ymddangos yng Nghwpan UEFA ym 1996-97[10] a chafwyd buddugoliaeth wych yn erbyn Valletta[11] yn y rownd rhagbrofol gyntaf cyn colli yn erbyn FC København o Denmarc yn yr ail rownd. Roedd Airbus UK yn ymddangos yn y gystadleuaeth am y drydedd flwyddyn o'r bron[10] ac er sicrhau gêm gyfartal yn Croatia yn erbyn Lokomotiva Zagreb, roedd y golled yn y cymal cyntaf yn Nantporth, Bangor yn ormod o fynydd i'w oresgyn[11]. Ac roedd gôl yn yr eiliadau olaf o'r ail gymal yn erbyn Differdange 03 yn ormod i Y Bala[11][12], oedd yn ymddangos yn Ewrop am yr ail dro[10].
Cynghrair Y Pencampwyr
[golygu | golygu cod]Rownd Rhagbrofol Gyntaf
[golygu | golygu cod]7 Gorffennaf 2015 19:00 |
| Y Seintiau Newydd |
4-1 | |
|---|---|---|
| Wilde Williams |
Ł Cieślewicz |
Y Seintiau Newydd yn ennill 6-2 dros y ddau gymal
Ail Rownd Rhagbrofol
[golygu | golygu cod]Videoton yn ennill 2-1 dros ddau gymal
Cynghrair Europa
[golygu | golygu cod]Rownd Rhagbrofol Gyntaf
[golygu | golygu cod]9 Gorffennaf 2015 19:00 |
| Y Bala |
2-1 | |
|---|---|---|
| Murtagh Sheridan |
Uchafbwyntiau | Errefik |
Differdange 03 yn ennill 4-3 dros y ddau gymal
2 Gorffennaf 2015 18:45 |
| Airbus UK |
1-3 | |
|---|---|---|
| Riley |
uchafbwyntiau | Šovšić Marić Kolar |
9 Gorffennaf 2015 18:30 |
| Lokomotiva Zagreb |
2-2 | |
|---|---|---|
| Fiolić |
Budrys A. Jones |
Lokomotiva Zagreb yn ennill 5-3 dros y ddau gymal
2 Gorffennaf 2015 19:15 |
| Y Drenewydd |
2-1 | |
|---|---|---|
| Boundford Oswell |
uchafbwyntiau | Jhonnattann |
Y Drenewydd yn ennill 4-2 dros y ddau gymal
Ail Rownd Rhagbrofol
[golygu | golygu cod]23 Gorffennaf 2015 18:45 |
| Y Drenewydd |
1-3 | |
|---|---|---|
| Goodwin |
Pourie Jørgensen |
FC København yn ennill 5-1 dros ddau gymal
Uwch Gynghrair Cymru
[golygu | golygu cod]Cychwynodd tymor Uwch Gynghrair Cymru ar 22 Awst 2015 gyda Llandudno a Hwlffordd yn cymryd eu lle ymysg y 12 Disglair ar ôl sicrhau dyrchafiad o Gynghrair Undebol Huws Gray a Chynghrair Cymru'r De. Cwympodd Prestatyn a Derwyddon Cefn i Gynghrair Undebol Huws Gray ar ôl gorffen ar waelod tabl 2014-15. Llwyddodd Y Seintiau Newydd i gipio'r Bencampwriaeth am y degfed tro yn eu hanes gyda'r Bala yn sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europa ar gyfer 2016-17.
| Saf |
Tîm |
Ch |
E |
Cyf |
Coll |
+ |
- |
GG |
Pt |
Cyrraedd Ewrop neu ddisgyn |
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| 1 | Y Seintiau Newydd (P) | 32 | 18 | 10 | 4 | 72 | 24 | +48 | 64 | Rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair Pencampwyr Uefa 2016-17 |
| 2 | Y Bala | 32 | 15 | 12 | 5 | 48 | 27 | +21 | 57 | Rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair Europa Uefa 2016-17 |
| 3 | Llandudno | 32 | 15 | 7 | 10 | 53 | 46 | +7 | 52 | Gemau Ail Gyfle Cynghrair Europa |
| 4 | Cei Connah | 32 | 15 | 3 | 14 | 50 | 42 | +8 | 48 | |
| 5 | Y Drenewydd | 32 | 11 | 9 | 12 | 46 | 54 | −8 | 42 | |
| 6 | Airbus UK | 32 | 12 | 6 | 14 | 46 | 55 | −9 | 42 | |
| 7 | Caerfyrddin | 32 | 14 | 5 | 13 | 45 | 52 | −7 | 47 | Gemau Ail Gyfle Cynghrair Europa |
| 8 | Aberystwyth | 32 | 13 | 7 | 12 | 51 | 47 | +4 | 46 | |
| 9 | Bangor | 32 | 13 | 6 | 13 | 49 | 52 | −3 | 45 | |
| 10 | Port Talbot (C) | 32 | 10 | 9 | 13 | 39 | 56 | −17 | 39 | Cwympo i Gynghrair Cymru (Y De)1 |
| 11 | Y Rhyl | 32 | 5 | 12 | 15 | 36 | 50 | −14 | 27 | |
| 12 | Hwlffordd (C) | 32 | 5 | 6 | 21 | 39 | 57 | −18 | 21 | Cwympo i Gynghrair Cymru (Y De) |
Source: http://s4c.cymru/sgorio Sgorio
Rheolau ar gyfer dethol safleoedd:
1) pwyntiau; 2) gwahaniaeth goliau; 3) goliau o blaid.
1 Port Talbot yn colli eu lle yn Uwch Gynghrair Cymru am fethu sicrhau trwydded ddomestig.
(P) = Pencampwyr; (C) = Cwympo; (D) = Dyrchafiad; (Y) = Ymadael o'r gystadleuaeth; (G) = Ennill gemau ail gyfle; (A) = Camu ymlaen i'r rownd nesaf.
Gemau Ail Gyfle Cynghrair Europa
[golygu | golygu cod]Gan fod Y Seintiau Newydd wedi sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr yn ogystal ag ennill Cwpan Cymru llwyddodd Llandudno, orffennodd yn drydydd, i sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europa ac osgoi'r gemau ail gyfle. O'r herwydd, cyfarfu Cei Connah, orffennodd yn bedwerydd, gyda Caerfyrddin oedd yn seithfed tra bo Y Drenewydd, oedd yn bumed, yn wynebu Airbus UK orffennodd yn chweched.
Roedd buddugoliaeth Cei Connah yn y rownd derfynol yn sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europa ar gyfer tymor 2016-17.
- Rownd Gynderfynol
9 Mai 2014 14:30 |
| Y Drenewydd | 1-2 | Airbus UK |
|---|---|---|
| Sutton |
Uchafbwyntiau | McGinn |
- Rownd Derfynol
Cwpan Cymru
[golygu | golygu cod]Cafwyd 199 o dimau yng Nghwpan Cymru 2015-16[13].
| Rownd yr Wyth Olaf | Rownd Gynderfynol | Rownd Derfynol | ||||||||
| 5 Mawrth, Parc Celtic | ||||||||||
| Cwmbrân Celtic | 1 | |||||||||
| 2 Ebrill Parc Latham | ||||||||||
| Port Talbot | 2 | |||||||||
| Port Talbot | 0 | |||||||||
| 5 Mawrth Y Maes Awyr | ||||||||||
| Airbus UK | 7 | |||||||||
| Airbus UK | 3 | |||||||||
| 2 Mai, Parc Latham | ||||||||||
| Y Bala | 0 | |||||||||
| Y Seintiau Newydd | 2 | |||||||||
| 5 Mawrth, Neuadd y Parc | ||||||||||
| Airbus UK | 0 | |||||||||
| Y Seintiau Newydd | 1 | |||||||||
| 2 Ebrill Parc Latham | ||||||||||
| Y Drenewydd | 2 | |||||||||
| Y Seintiau Newydd | 5 | |||||||||
| 5 Mawrth, Cyncoed | ||||||||||
| Cei Connah | 0 | |||||||||
| Met Caerdydd | 0 | |||||||||
| Cei Connah | 2 | |||||||||
Rownd Derfynol
[golygu | golygu cod]Cwpan Word
[golygu | golygu cod]Llwyddodd Dinbych o gynghrair Huws Gray i drechu tri clwb o Uwch Gynghrair Cymru ar y ffordd i'r rownd derfynol. Cafwyd buddugoliaethau yn erbyn Y Rhyl, Airbus UK a Cei Connah cyn iddynt wynebu Y Seintiau Newydd yn y rownd derfynol ar faes Llandudno.
| Rownd yr Wyth Olaf | Rownd Gynderfynol | Rownd Derfynol | ||||||||
| 20 Hydref, Neuadd y Parc | ||||||||||
| Y Seintiau Newydd | 3 | |||||||||
| 17 Tachwedd, Neuadd y Parc | ||||||||||
| Hwlffordd | 1 | |||||||||
| Y Seintiau Newydd | 4 | |||||||||
| 20 Hydref, Parc Waun Dew | ||||||||||
| Caerfyrddin | 1 | |||||||||
| Caerfyrddin | 3 | |||||||||
| 23 Ionawr, Parc Maes Du | ||||||||||
| Port Talbot | 1 | |||||||||
| Y Seintiau Newydd | 2 | |||||||||
| 20 Hydref, Central Park | ||||||||||
| Dinbych | 0 | |||||||||
| Dinbych (w.a.y.) | 2 | |||||||||
| 18 Tachwedd, Central Park | ||||||||||
| Airbus UK | 1 | |||||||||
| Dinbych | 1 | |||||||||
| 20 Hydref, Glannau Dyfrdwy | ||||||||||
| Cei Connah | 0 | |||||||||
| Cei Connah (w.a.y.) | 5 | |||||||||
| Caernarfon | 3 | |||||||||
Rownd Derfynol
[golygu | golygu cod]Cwpan FA Lloegr
[golygu | golygu cod]Er eu bod yn glybiau Cymreig mae Abertawe, C.P.D. Dinas Caerdydd, Casnewydd, Wrecsam, Bae Colwyn a Merthyr yn cystadlu yng Nghwpan FA Lloegr gan eu bod yn chwarae ym mhyramid bêl-droed Lloegr yn hytrach na phyramid bêl-droed Cymru.
Trydedd Rownd
[golygu | golygu cod]Ail Rownd
[golygu | golygu cod]Rownd Gyntaf
[golygu | golygu cod]8 Tachwedd 2015 14:00 |
| Brackley Town | 2–2 | Casnewydd |
|---|---|---|
| Graham McDonald |
John-Lewis Bennett |
17 Tachwedd 2015 19:45 |
| Casnewydd | 4–1 | Brackley Town |
|---|---|---|
| John-Lewis Klukowski Rodman Hawtin |
Hawtin |
Pedwaredd Rownd Rhagbrofol
[golygu | golygu cod]Ail Rownd Rhagbrofol
[golygu | golygu cod]Rownd Rhagbrofol Gyntaf
[golygu | golygu cod]Marwolaethau
[golygu | golygu cod]- 5 Awst 2015: Tony Millington, 72, cyn chwaraewr West Bromwich Albion, Crystal Palace, Peterborough United, Abertawe a Chymru[14]
- 12 Awst 2015: Chris Marustik, 54, cyn chwaraewr Abertawe, Caerdydd, Casnewydd and a Chymru[15]
- 4 Ionawr 2016: John Roberts, 69, cyn chwaraewr Abertawe, Northampton Town, Arsenal, Birmingham City, Wrecsam, Hull City a Chymru[16]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Allen and Ramsey in Euro 2016 Team of the Tournament". faw.cymru. faw.cymru.
- ↑ "Wales in dreamland with first qualification". Uefa.com. Uefa.com.
- ↑ "UEFA EURO 2016 Qualifying Draw Procedure" (pdf). Uefa.com. Uefa.com.
- ↑ "Qualifying Draws". uefa.com.
- ↑ "Wales enter Fifa world rankings top 10 for first time, one place below England". The Guardian. The Guardian.
- ↑ "Wales soar to eighth in latest Fifa world rankings – one place behind Brazil". The Guardian. The Guardian.
- ↑ "Wales 2-0 Andorra". welshfootballonline.com. welshfootballonline.com.
- ↑ 8.0 8.1 "Wales 2-3 Netherlands". welshfootballonline.com. welshfootballonline.com.
- ↑ "Russia face Germany, Sweden get Denmark". uefa.com. 2015-04-20.
- ↑ 10.0 10.1 10.2 "Y Bala, Airbus a'r Drenewydd sydd yn disgwyl eu ffawd yng Nghynghrair Ewropa". Sgorio. 2015-06-22.
- ↑ 11.0 11.1 11.2 "Y Drenewydd yn taro'r nod wrth i glybiau Cymru ddechrau ymgyrch Europa". Sgorio. s4c.cymru.
- ↑ "Y Bala 2-1 Differdange 03". Sgorio. s4c.cymru.
- ↑ "FAW announce record Welsh Cup sponsorship". 2015-07-07.[dolen farw]
- ↑ "Former Swansea City and Wales goalkeeper Tony Millington dies aged 72". South Wales Evening Post.
- ↑ "Chris Marustik: Former Wales and Swansea defender dies". BBC Sport.
- ↑ "Former Wrexham defender passes away". WrexhamAFC.co,uk. WrexhamAFC.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-02. Cyrchwyd 2016-01-04.
| Wedi'i flaenori gan: Tymor 2014-15 |
Pêl-droed yng Nghymru Tymor 2015-16 |
Wedi'i olynu gan: Tymor 2016-17 |