Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru

Oddi ar Wicipedia
Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru
Enghraifft o'r canlynoltîm pêl-droed cenedlaethol merched Edit this on Wikidata
PerchennogCymdeithas Bêl-droed Cymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru (Saesneg: Wales women's national football team) yn cynrychioli Cymru yn y byd pêl-droed i ferched ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW). Mae'r FAW yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).

Hanes[golygu | golygu cod]

Roedd tîm yn cynrychioli Cymru eisoes wedi chwarae ym Mhencampwriaeth answyddogol Ewrop yn Rimini, Yr Eidal ym 1979, gan orffen ar waelod grŵp oedd yn cynnwys Yr Iseldiroedd a Sweden[1]. ond ni chafodd Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru eu mabwysiadu'n swyddogol gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru tan 1992[2]. Chwaraewyd eu gêm swyddogol gyntaf yn erbyn Gwlad yr Iâ ym Mhort Talbot ar 6 Medi 1993.

Trefnwyd Pencampwriaeth Ewrop i Ferched gan UEFA am y tro cyntaf ym 1984, ond gan nad oedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cydnabod tîm merched Cymru hyd nes 1992, ni chafwyd gwahoddiad[3]. Cafodd Cymru gystadlu am y tro cyntaf yn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewrop i Ferched 1995 [4].

Chwaraewyr Nodedig[golygu | golygu cod]

Ymysg chwaraewyr mwyaf nodedig ac adnabyddus y tîm mae Jess Fishlock o Gaerdydd. Hi oedd y chwaraewr cyntaf (gwrywaidd neu fenywaidd) i ennill 100 cap dros eu gwlad. Bu i'r gweinyddydd chwaraeon a'r darlithydd, Laura McAllister o Penybont-ar-Ogwr hefyd chwarae i'r tîm.

Record Rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Cwpan y Byd[golygu | golygu cod]

Nid yw Cymru erioed wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd i Ferched.

Cwpan y Byd
Blwyddyn Canlyniad Ch E Cyf Coll + - GG
Baner Tsieina 1991 Heb gystadlu - - - - - - -
Baner Sweden 1995 Heb gystadlu - - - - - - -
Baner UDA 1999 Heb gyrraedd rowndiau terfynol - - - - - - -
Unol Daleithiau America 2003 Heb gyrraedd rowndiau terfynol - - - - - - -
Gweriniaeth Pobl Tsieina 2007 Heb gyrraedd rowndiau terfynol - - - - - - -
Yr Almaen 2011 Heb gyrraedd rowndiau terfynol - - - - - - -
Canada 2015 Heb gyrraedd rowndiau terfynol - - - - - - -
Cyfanswm 0/7 - - - - - - -

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Inofficial European Women Championship 1979". Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Merched Cymru'n gobeithio tanio". 2014-05-06. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "1982-84 Overview". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "1993-95 UEFA Women's EURO". Unknown parameter |published= ignored (help)
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.