Neidio i'r cynnwys

Laura McAllister

Oddi ar Wicipedia
Laura McAllister
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnLaura Jean McAllister[1]
Dyddiad geni1964 (61–62 oed)
Man geniPen-y-bont ar Ogwr
SafleAmddiffynnwr
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd†(Gôl)†
Millwall Lionesses
Merched Dinas Caerdydd
Tîm Cenedlaethol‡
1994–1998Cymru24(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 21:13, 15 Tachwedd 2014 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 21:13, 15 Tachwedd 2014 (UTC)

Academydd, gwleidydd a chyn chwaraewr pêl-droed yw'r Athro Laura Jean McAllister CBE (ganed 1964) sydd yn gadeirydd Chwaraeon Cymru. Fel chwaraewr pêl-droed yn nhîm cenedlaethol merched Cymru, enillodd McAllister 24 o gapiau, a bu'n gapten y tîm. Safodd fel ymgeisydd etholiadol dros Blaid Cymru yn 1987 a 1992. Ar hyn o bryd mae'n Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Fe'i penodwyd yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) yn Anrhydeddau Pen-blwydd 2016 am ei gwasanaeth i chwaraeon yng Nghymru.[2]

Gyrfa Academaidd

[golygu | golygu cod]

Derbyniodd McAllister ei addysg Uwchradd yn Ysgol Bryntirion Pen-y-bont ar Ogwr. Graddiodd o Ysgol Economeg Llundain, lle y cwblhaodd BSc (Econ.) mewn llywodraethu, ac o Brifysgol Caerdydd, lle cwblhaodd PhD mewn Gwleidyddiaeth. Bu'n Athro Llywodraethu ym Mhrifysgol Ysgol Rheolaeth Lerpwl rhwng 1998 a Hydref 2016. Mae hi'n aelod o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae ganddi raddau anrhydeddus o Brifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, a Phrifysgol Abertawe[3].

Gyrfa wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru yn Etholiad cyffredinol 1987 yn etholaeth Penybont ar Ogwr, ac yn etholaeth Ogwr yn Etholiad cyffredinol 1992.

Roedd yn aelod o Fwrdd Cydnabyddiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru o 2014 i 2015, yn gynghorydd i'r Panel Annibynnol ar Dâl a Chefnogaeth Aelodau'r Cynulliad o 2008 i 2009, ac yn aelod o Gomisiwn Richard rhwng 2002 a 2004.

Bu'n aelod o fwrdd Stonewall o 2012 i 2015, ac ar hyn o bryd mae'n aelod o fwrdd Y Sefydliad Materion Cymreig.

Gyrfa Pêl-droed

[golygu | golygu cod]

Gyrfa clwb

[golygu | golygu cod]

Ni chwaraeodd McAllister bêl-droed dan drefn ffurfiol nes iddi ymuno â'r Millwall Lionesses wrth astudio yn Ysgol Economeg Llundain. Ar ôl iddi ddychwelyd i Gymru treuliodd 12 mlynedd gyda Dinas Caerdydd.[4] Casglodd McAllister ddwy fedal enillwyr Cwpan Merched Cymru a enillodd ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Merched Cymru gyda Chaerdydd.[5]

Gyrfa ryngwladol

[golygu | golygu cod]

Yn 1992 roedd McAllister yn un o dri bêl-droediwr benywaidd a bwysodd ar ysgrifennydd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru (FAW), Alun Evans i roi cydnabyddiaeth i bêl-droed merched yng Nghymru.[6] Rhoddwyd tîm swyddogol at ei gilydd a chystadlodd yn nhwrnamaint cymhwyster i Bencampwriaeth Merched UEFA 1995. Gwnaeth McAllister ei ymddangosiad cyntaf i Gymru yn yr ail gêm, ac fe drechwyd Cymru 12-0  gan yr enillwyr yn y pen draw, yr Almaen yn Bielefeld.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Mae'r Athro McAllister wedi cyhoeddi nifer o lyfrau gan gynnwys;

  • Plaid Cymru: The Emergence of a Political Party; Seren 2001 ASIN B019TLTNMG
  • Women, Politics and Constitional Change: The First Years of the National Assembly for Wales (Politics & Society in Wales); gyda Paul Chaney a Fiona Mackay; Prifysgol Cymru 2007 ASIN B01K0TPJ9M
  • Dafydd Ellis Thomas: A Biography; Prifysgol Cymru 2008 ISBN 978-0708318300

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Wales 0 - 3 Republic of Ireland". Football Association of Ireland. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2014.
  2. ↑ "No. 61608". The London Gazette (invalid |supp= (help)). 11 Mehefin 2016.
  3. ↑ "Swansea University honours academic, politician and footballer, Professor Laura". Prifysgol Abertawe. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mai 2017. Cyrchwyd 7 Ebrill 2018.
  4. ↑ Shipton, Martin (12 Chwefror 2012). "There's really nothing more heart-warming than seeing the smile on a child's face when they've caught a ball; New head of Sport Wales reveals her goals". Western Mail. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2014.
  5. ↑ McAllister, Laura. "Interview with the footballer Laura McAllister". People's Collection Wales. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2014.
  6. ↑ Jones, Karen (21 Tachwedd 2011). "Karen Jones/ Secretary/ Cardiff City LFC". She Kicks. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2016. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2014.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]