John Roberts (pêl-droediwr)
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | John Griffith Roberts | ||
Dyddiad geni | 11 Medi 1946 | ||
Man geni | Abercynon, Cymru | ||
Dyddiad marw | 4 Ionawr 2016 (69 oed) | ||
Safle | Amddiffynnwr | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
1964–1967 | Abertawe | 37 | (16) |
1967–1969 | Northampton Town | 62 | (11) |
1969–1972 | Arsenal | 59 | (4) |
1972–1976 | Birmingham City | 66 | (1) |
1976–1980 | Wrecsam | 145 | (5) |
1980–1982 | Hull City | 26 | (1) |
Cyfanswm | 395 | (38) | |
Tîm Cenedlaethol | |||
Cymru d21 | 1 | (0) | |
Cymru d23 | 5 | (0) | |
1971–1976 | Cymru | 22 | (0) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Cyn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Cymru a Wrecsam oedd John Griffith Roberts (11 Medi 1946 – 4 Ionawr 2016). Fe'i ganed yn Abercynon, Rhondda Cynon Taf[1] a llwyddodd i ennill 22 cap dros Gymru rhwng 1971 a 1976.
Gyrfa Clwb[golygu | golygu cod y dudalen]
Dechreuodd Roberts ei yrfa fel ymosodwr gydag Abertawe gan ymuno â'r clwb fel amatur cyn troi'n broffesiynol ym 1964. Wedi tair blynedd ar y Vetch, symudodd i Northampton Town am £15,000 yn Nhachwedd 1967. Tra'n chwarae i Northampton symudodd o chwarae fel ymosodwr i chwarae yn yr amdiffyn[2]. Ym Mai 1969 penderfynodd Arsenal dalu £45,000 amdano a daeth yn aelod allweddol o'r garfan lwyddodd i ennill Cynghrair Lloegr a Chwpan FA Lloegr ym 1970-71[2].
Yn Hydref 1972 ymunodd Roberts â Birmingham City am £140,000 a chwaraeodd yn rheolaidd am y ddau dymor nesaf cyn i anaf cas ei orfodi absenoldeb hir dymor. Ym 1976, wedi methu a sicrhau ei le yn ôl yn nhîm Birmingham, symudodd i Wrecsam am £30,000 er mwyn cymryd lle Eddie May oedd wedi gadael am Abertawe. Roedd yn aelod allweddol o garfan Wrecsam lwyddodd i sicrhau dyrchafiad i'r Ail Adran a chodi Cwpan Cymru ym 1977-78.
Gadawodd Wrecsam ym 1980 gan ymuno â Hull City am £15,000 ond daeth ei yrfa i ben oherwydd anaf ym Mehefin 1982[2].
Gyrfa Rhyngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]
Gwnaeth Roberts ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Yr Alban ar Barc Ninian, Caerdydd ym 1971[3]. Roedd yn aelod o garfan Cymru chwaraeodd yng ngemau rhagbrofol Euro 1976[4][5] a casglodd yr olaf o'i 22 cap yn erbyn Yr Alban ym 1976[3].
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gareth M. Davies ac Ian Garland (1991). Welsh International Soccer Players. p. 178. ISBN 1 872424 11 2. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ 2.0 2.1 2.2 Peter Jones a Gareth M. Davies (1999). The Racecourse Robins: Adams To Youds. p. 261. ISBN 0-952495-01-5.
- ↑ 3.0 3.1 "Wales 0-0 Scotland". eu-football. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Austria 2-1 Wales". welshfootballonline.com. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Hungary 1-2 Wales". welshfootballonline.com. Unknown parameter
|published=
ignored (help)
|