C.P.D. Tref Merthyr

Oddi ar Wicipedia
Tref Merthyr
Enw llawn Clwb Pêl-droed Tref Merthyr
Llysenw(au) Y Merthyron
Sefydlwyd 1909
Maes Parc Penydarren, Merthyr Tudful
Rheolwr Gavin Williams
Cynghrair Uwch Gynghrair Y De

Clwb pêl-droed o Merthyr Tudful ydi Clwb Pêl-droed Tref Merthyr (Saesneg: Merthyr Town Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair y De ym mhyramid pêl-droed Lloegr.

Ffurfiwyd y clwb ym 1908[1] gan chwarae yn Y Gynghrair Bêl-droed rhwng 1920 a 1930.[2]. Aeth y clwb i'r wal ym 1934 gyda dyledion o £3,000 ond wedi'r Ail Ryfel Byd sefydlwyd Clwb Pêl-droed Merthyr Tudful ym 1945, ond yn dilyn trafferthion arianol cafodd y clwb ei ddirwyn i ben yn 2010. Ffurfiwyd clwb newydd gan grŵp o gefnogwyr o dan yr hen enw, C.P.D. Tref Merthyr gan gychwyn tymor 2010-11 yn Adran Gyntaf y Gynghrair Gorllewinol[1].

Record yn Ewrop[golygu | golygu cod]

Tymor Cystadleuaeth Rownd Clwb Cymal 1af 2il Gymal Dros Ddau Gymal
1987–88 Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop R1 Baner Yr Eidal Atalanta 2–1 0–2 2–3

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Cwpan Cymru 3
    • Enillwyr: 1949, 1951, 1987
    • Cyrraedd Rownd Derfynol: 1924, 1947, 1952

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Merthyr Town FC: Our History". Merthyr Town FC.
  2. "A History of Admission to the Football League". Unknown parameter |published= ignored (help)