Neidio i'r cynnwys

Jayne Ludlow

Oddi ar Wicipedia
Jayne Ludlow
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnJayne Louise Ludlow[1]
Dyddiad geni (1979-01-07) 7 Ionawr 1979 (46 oed)
Man geniLlwynypia
Taldra1.73m
SafleCanolwr
Y Clwb
Clwb presennolCymru (rheolwr)
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
Merched y Bari
Millwall Lionesses
Southampton Saints
2000–2013Merched Arsenal
2005New York Magic (ar fenthyg)[2]6(3)
Tîm Cenedlaethol
1996–2012Cymru61(19)
Timau a Reolwyd
2013–2014Merched Reading
2014–Cymru
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau).

Mae Jayne Louise Ludlow (ganed 7 Ionawr 1979) yn hyfforddwr pêl-droed o Gymru ac yn cyn chwaraewr. Hi yw hyfforddwr Tîm Pêl-droed Merched Cymru.

Fel chwaraewr canol cae bu Ludlow yn chware i Arsenal am 13 mlynedd gan wasanaethu fel capten y tîm. Hi yw'r ferch sydd wedi sgorio'r nifer fwyaf o goliau i Arsenal erioed.[3][4] Gwasanaethodd fel capten tîm merched Cymru hyd ei ymddeoliad o bêl-droed rhyngwladol yn 2012.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Ludlow yn Llwynypia yn ferch i Wynford Ludlow a Marilyn (née Reed) ei wraig. Bu Wynford yn chwaraewr pêl-droed gyda Tref Abertawe (cyn iddi ddyfod yn ddinas) a fu hefyd yn hyfforddi timau yng Nghynghrair Cymru.[5]

Derbyniodd Ludlow ei haddysg yn Ysgol Gyfun Treorci a Choleg y Brenin, Llundain.

Gyrfa clwb

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd chware pêl-droed gyda thîm o fechgyn cyn gorfod rhoi'r gorau iddi wedi cyrraedd 12 mlwydd oed.[6] Cafodd gyrfa ieuenctid addawol yn y maes athletig gan dal y record Brydeinig i'r naid driphlyg o dan 17 a gan gynrychioli'r DU mewn cystadlaethau dan 20.[7] Bu hefyd yn cynrychioli Cymru yn chware pêl-rwyd a pêl-fasged.[6][8] Penderfynodd canolbwyntio ar bêl-droed gan chware i dîm merched y Bari.[6][9]

Enillodd Ludlow ysgoloriaeth i Brifysgol Pennsylvania yn yr Unol Daleithiau, ond ymadawodd wedi ychydig fisoedd o'r cwrs gan nad oedd hi'n fodlon a safon y pêl-droed [6][9] Symudodd i Lundain a bu'n chware i dîm Millwall Lionesses a Southampton Saints wrth gwblhau gradd mewn ffisiotherapi yng Ngholeg y Brenin, Llundain.[9]

Wedi ymuno â thîm merched Arsenal yn 2000, sgoriodd Ludlow 28 gôl o ganol y cau wrth iddi gynorthwyo ei thîm i ennill trebl domestig yn ei thymor cyntaf. Cafodd ei henwi fel Chwaraewr y Flwyddyn enwebiad y chwaraewyr yn 2001 ac eto yn 2003 a 2004. Yn 2007 roedd Ludlow yn rhan allweddol o'r tîm a llwyddodd i ennill 4 teitl yn y tymor gan sgorio 24 gôl.[3][4][10] Yn nhoriad tymor 2005 dychwelodd i'r Unol Daleithiau i chware i New York Magic.[2]

Gwasanaethodd fel is-gapten ac wedyn capten tîm Arsenal.[3][4]

Yn ystod buddugoliaeth 1-0 Arsenal's dros Everton ym mis Ebrill 2010, derbyniodd Ludlow cerdyn coch am  "ffrwydrad ymosodgar" tuag at ei wrthwynebydd Fara Williams.[11] O herwydd hyn cafodd Ludlow ei gwahardd rhag bod yn gapten ar ei Thîm ar gyfer ffeinal Cwpan FA y merched 2010 FA lle cafodd Arsenal eu trechu gan Everton.

Ym mis Gorffennaf 2013 wedi cyfres o anafiadau cyhoeddodd Ludlow ei ymddeoliad fel chwaraewr gan ddweud ei bod am ganolbwyntio ar ei rhôl fel hyfforddwr Academi Arsenal a Chymru.

Yn ystod ei chyfnod yn chware i'r clwb enillodd Arsenal a Ludlow naw pencampwriaeth y gynghrair chwe Cwpan FA a Chwpan Merched UEFA Mae'n parhau i ddal y record am y nifer o goliau a sgoriwyd dros dîm Merched Arsenal.[12][13]

Mis ar ôl ymddeol derbyniodd swydd fel rheolwr a chyfarwyddwr tîm merched Reading a oedd newydd fod yn llwyddiannus yn eu cais i ymuno ag ail reng Oruwch Gynghrair y Merched.[14]

Gyrfa ryngwladol

[golygu | golygu cod]

Enillodd Ludlow ei chap cyntaf dros Gymru yn 17 mlwydd oed mewn gêm yn erbyn Gweriniaeth yr Iwerddon ym mis Chwefror 1996.[15][16]

Ym mis Tachwedd 2010 enillodd Ludlow ei 50fed cap dros ei gwlad wedi dychwelyd i'r tîm ar ôl absenoldeb a achoswyd gan anghydweld efo'r rheolwr Adrian Tucker parthed cyfeiriad gêm y merched yng Nghymru.[17] Sgoriodd ei 18fed gôl dros ei gwlad gan drechu tîm Bwlgaria 8-1[18] Chwaraeodd ei gêm ryngwladol olaf yn 2012.

Yn 2014 cyhoeddodd Cymdeithas Pêl-droed Cymru eu bod am benodi Ludlow fel rheolwr Merched Cymru wedi ymadawiad Jarmo Matikainen [19]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  2. 2.0 2.1 Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  3. 3.0 3.1 3.2 "Short profile". Arsenal FC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-10. Cyrchwyd 2018-04-07.
  4. 4.0 4.1 4.2 "Jayne Ludlow announces retirement". Arsenal.com.
  5. "Jayne out for double celebration". Wales Online. 7 Ionawr 2006. Cyrchwyd 7 Ebrill 2018.
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 "Meet Britain's best female footballer". BBC. 11 Gorffennaf 2002. Cyrchwyd 7 Ebrill 2018.
  7. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).[dolen farw]
  8. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  9. 9.0 9.1 9.2 Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  10. "Statistics 2006–2007". Arsenal F.C. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-10. Cyrchwyd 7 Ebrill 2018.
  11. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  12. "Arsenal Ladies Legend Jayne Ludlow "very proud" to be new manager of Wales Women". Wales Online.co.uk.
  13. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  14. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).[dolen farw]
  15. S4C Sgorio " Merched Cymru’n anelu am 2011" adalwyd 07/04/2018
  16. "Jayne Ludlow". UEFA.[dolen farw]
  17. Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
  18. S4C Sgorio Merched Cymru 8-1 Merched Bwlgaria adalwyd 07/04/2018
  19. South Wales Argus "Jayne Ludlow is new Wales women's manager" adalwyd 07/04/2018