Joe Allen
![]() Allen yn 2016 | |||
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Joseph Michael Allen[1] | ||
Dyddiad geni | 14 Mawrth 1990 | ||
Man geni | Caerfyrddin, Cymru | ||
Taldra | 1.68m | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Dinas Abertawe | ||
Rhif | 7 | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
1997–2000 | Dinbych-y-pysgod | ||
2000–2007 | Dinas Abertawe dan 23 | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2007–2012 | Dinas Abertawe | 127 | (7) |
2008 | → Wrecsam (benth.) | 2 | (1) |
2012–2016 | Lerpwl | 91 | (4) |
2016–2022 | Stoke City | 212 | (18) |
2022–2025 | Dinas Abertawe | 68 | (4) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
2005–2006 | Cymru dan 17 | 10 | (1) |
2006–2007 | Cymru dan 19 | 4 | (0) |
2007–2011 | Cymru dan 21 | 14 | (2) |
2009–2025 | Cymru | 77 | (2) |
2012 | Prydain Fawr | 5 | (0) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 23:12, 26 April 2025 (UTC). † Ymddangosiadau (Goliau). |
Cyn bêl-droediwr o Gymru yw Joe Allen (ganwyd Joseph Michael Allen;14 Mawrth 1990). Bu'n chwarae i glwb Dinas Abertawe yn Uwchgynghrair Lloegr ac i dîm cenedlaethol Cymru.
Dechreuodd Allen ei yrfa broffesiynol gyda Abertawe ar ôl ymuno ag adran ieuenctid y clwb yn naw mlwydd oed[2]. Llwyddodd i ennill dyrchafiad o'r Adran Gyntaf i Uwchgynghrair Lloegr gydag Abertawe cyn symud i Lerpwl yn 2012 am ffi o £15 miliwn[3].
Yng Ngorffennaf 2016 symudodd Allen i Stoke City am ffi o £13m[4]. Dychwelodd i Abertawe yn 2022.
Roedd Allen yn aelod o garfan Cymru a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Euro 2016 a cafodd ei enwi yn Nhim y Twrnament gan UEFA[5].
Cyhoeddoedd ei ymddeoliad fel pêl-droediwr ar ddechrau Mai 2025. Chwaraeodd ei gêm olaf i Abertawe ar 3 Mai 2025.[6]
Gyrfa clwb
[golygu | golygu cod]Dinas Abertawe
[golygu | golygu cod]Roedd Allen yn aelod o adran ieuenctid Dinas Abertawe ers yn naw mlwydd oed[2] a gwaneth ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm cyntaf yn 16 mlwydd oed yn erbyn Port Talbot yn y Gwpan Genedlaethol[7]. Gwnaeth Allen ei ymddangosiad cyntaf yn y Gynghrair fel eilydd yn erbyn Blackpool ar 5 Mai 2007[8].
Wedi i Abertawe sicrhau dyrchafiad i'r Bencampwriaeth yn 2008, methodd Allen a sicrhau ei le yn y tîm ac aeth ar fenthyg i Wrecsam[9] lle sgoriodd yn ei ymddangosiad cyntaf cyn anafu ei ffêr yn ei ail gêm a gorfod dychwelyd i'r Swans[10][11].
Chwaraeodd ran allweddol yn ystod tymor 2010-11 welodd Abertawe yn sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr gyda buddugoliaeth dros Reading yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Wembley. Ar ddechrau tymor 2011-12, arwyddodd Allen gytundeb newydd gydag Abertawe[12] a chwaraeodd 36 o 38 gêm y clwb yn yr Uwch Gynghrair.
Lerpwl
[golygu | golygu cod]Ar 10 Awst 2012 ymunodd Allen â Lerpwl am £15m gan ddilyn y rheolwr, Brendan Rodgers o Abertawe i Anfield[13]. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r Cochion ar 18 Awst 2012[14] a sgoriodd ei gôl gyntaf i'r clwb yn erbyn Oldham Athletic yng Nghwpan FA Lloegr.
Stoke City
[golygu | golygu cod]Ar 25 Gorffennaf 2016, ymunodd Allen â Stoke City ar gytundeb pum mlynedd am ffi o £13m[15]
Gyrfa ryngwladol
[golygu | golygu cod]Enillodd Allen ei gap cyntaf dros Gymru wrth ddod i'r maes fel eilydd yn y fuddugoliaeth dros Estonia ym Mharc y Scarlets, Llanelli ym Mawrth 2009[16] ac arweiniodd ei wlad am y tro cyntaf yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Yr Iseldiroedd ar 4 Mehefin, 2014. Roedd yn aelod o garfan Cymru lwyddodd i gyrraedd rownd gynderfynol Euro 2016 a cafodd ei enwi yn Nhîm y Twrnament gan UEFA[5].
Cafodd Allen wobr Chwaraewr y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2012.[17]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae Allen yn briod â Lacey ac mae ganddynt fab o'r enw Archie. Mae brawd Joe, Harry Allen, yn aelod o dîm pêl-droed byddar Cymru ac, o'r herwydd, mae Joe yn llysgennad i'r elusen, Action on Hearing Loss.[18]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Search 1984 to 2006 – Cyfeirlyfr Geni, Priodi a Marw". Findmypast.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-02. Cyrchwyd 2009-06-16.
- ↑ 2.0 2.1 "South Wales Evening Post". 2012-08-01.
- ↑ "Liverpoolfc.tv". 2012-08-10. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-11. Cyrchwyd 2014-05-16.
- ↑ "Joe Allen: Stoke City sign Liverpool midfielder in £13m transfer". BBC Sport (yn Saesneg). 2016-07-20. Cyrchwyd 2025-05-03.
- ↑ 5.0 5.1 "UEFA EURO 2016 Team of the Tournament revealed". UEFA. 11 Gorffennaf 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2016.
- ↑ "Joe Allen, seren Cymru ac Abertawe, yn ymddeol o bêl-droed". BBC Cymru Fyw. 2025-05-02. Cyrchwyd 2025-05-03.
- ↑ "Port Talbot 2–1 Swansea (aet)". BBC Sport. BBC Sport. 2007-01-15.
- ↑ "Swansea 3–6 Blackpool". BBC Sport. 2007-05-05.
- ↑ "Swan Allen joins Wrexham on loan". BBC Sport. 2008-10-07.
- ↑ "Wrexham 3–1 York". BBC Sport. 2008-10-07.
- ↑ "Joe likely to be out for several weeks". Wrexham F.C. 2008-10-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-25. Cyrchwyd 2016-08-11.
- ↑ "Joe Allen spurred by new Swansea City contract". BBC Sport. 2011-08-10.
- ↑ "Joe Allen signs for Liverpool FC – LFC News – Liverpool FC". Anfield Online. 2012-08-10.
- ↑ "Baggies condemn Reds to nightmare start". ESPN Soccernet. 2012-08-18.
- ↑ "Potters Pounce For Allen". Stoke City. 2016-07-25.
- ↑ "Wales v. Estonia Welsh Football Online". welshfootballonline.com. 2009-03-30.
- ↑ "Sgorio: Joe Allen yw chwaraewr y flwyddyn". s4c.co.uk. 2012-10-09.
- ↑ "Welsh football star officially unveiled as charity ambassador". Action on Hearing Loss. actionhearingloss.org.uk. 2015-03-16. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-08. Cyrchwyd 2016-08-11.