C.P.D. Tref Port Talbot
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Tref Port Talbot | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) | Y Gwŷr Dur | ||
Sefydlwyd | 1901 | ||
Maes | Stadiwm Genquip | ||
Rheolwr | Andrew Dyer | ||
Cynghrair | Uwch Gynghrair Cymru | ||
2015-2016 | 10fed | ||
|
Clwb pêl-droed ym Mhort Talbot ydy Clwb Pêl-droed Tref Port Talbot (Saesneg: Port Talbot Town Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru.
Ffurfiwyd y clwb ym 1901[1] ac maent yn chwarae eu gemau cartref ar Faes Ffordd Victoria sy'n cael ei adnabod, am resymau nawdd, fel Stadiwm Genquip. Mae'r maes yn dal uchafswm o 6,000 o dorf gyda 1,000 o seddi.
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd y clwb yn aelodau o Prif Gynghrair Abertawe o 1901 hyd nes 1926 pan ymunodd Port Talbot â chynghrair newydd Port Talbot a'r Cylch.[1]. Wedi'r Ail Ryfel Byd ymunodd y clwb â Chynghrair Cymru (Y De)[2] ond wedi dau ddegawd o symud rhwng yr Uwch Adran a'r Adran Gyntaf disgynodd y clwb i'r adran isaf yn nhymor 1970-71[3].
Ar ôl brwydro yn ôl i'r brif adran erbyn 1984-85 cafwyd dechrau tymhestlog i'r 1990au wrth i Bort Talbot ddisgyn yn ôl i'r adran isaf ym 1993-94[1] cyn i gyfnod o ail strwythuro oddi ar y maes sicrhau dyfodol disglair i'r clwb wrth iddyn nhw anelu tuag at sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru.
Daeth eu dyrchafiad yn nhymor 1999-2000[4] ac maent wedi bod yn yr Uwch Gynghrair byth ers hynny.
Record yn Ewrop
[golygu | golygu cod]Tymor | Cystadleuaeth | Rownd | Clwb | Cymal 1af | 2il Gymal | Dros Ddau Gymal |
---|---|---|---|---|---|---|
2010–11 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 1 | TPS Turku | 0–4 | 1-3 | 1-7 |
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Cwpan Cymru
- Cyrraedd Rownd Derfynol: 2009-10
- Cwpan Cynghrair Cymru
- Cyrraedd Rownd Derfynol: 2005-06
Cynghrair Cymru (Y De), 2018-19 | ||
---|---|---|
Cambrian a Clydach | Celtic Cwmbrân | Cwmaman | Ffynnon Taf | Goytre | Goytre Unedig | Gwndy | Hwlffordd | Lido Afan | Llanilltyd Fawr | Llansawel | Pen-y-bont | Tref Pontypridd | Port Talbot | Rhydaman | Ton Pentre | |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Port Talbot Town History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-13. Cyrchwyd 2014-08-29. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Football Data Archive: Welsh League (South) 1947-48". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Football Data Archive: Welsh League (South) 1970-71". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Football Data Archive: Welsh League (South) 1999-2000". Unknown parameter
|published=
ignored (help)