Anfield
![]() | |
Math |
stadiwm pêl-droed ![]() |
---|---|
| |
Agoriad swyddogol |
1884 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad |
Lerpwl ![]() |
Sir |
Anfield ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.4308°N 2.9608°W ![]() |
Rheolir gan |
Liverpool F.C. ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth |
Liverpool F.C. ![]() |
Stadiwm pêl-droed yw Anfield, a leolir yn yr ardal o'r un enw yn Lerpwl, Lloegr. Mae'r stadiwm yn seddi i gyd ers addasu'r Spion Kop yn 1994. Adeiladwyd y stadiwm ym 1884 a dyma oedd cartref gwreiddiol tîm pêl-droed Everton. Chwaraeodd y clwb ar y safle tan 1892, pan adawsant ar ôl anghydfod ynglyn â'r rhent. Ers hynny, ma'r stadiwm wedi bod yn gartref i dîm pêl-droed Lerpwl, a ffurfiwyd o ganlyniad i Everton yn gadael Anfield.
Mae'r stadiwm yn cyrraedd lefel 4-seren Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Ewropeaidd, ac mae nifer o gêmau rhyngwladol ar lefel uchel wedi eu cynnal yno, gan gynnwys gêmau Lloegr. Defnyddiwyd y safle hefyd yn ystod Ewro 96 ac fe chwaraeodd Cymru rhai o'u gemau cartref yno ar ddiwedd y 1990au tra roedd Stadiwm y Mileniwm yn cael ei gwblhau.
Yn bellach yn ôl yn hanes y stadiwm, defnyddiwyd Anfield ar gyfer gweithgareddau eraill, megis paffio a gêmau tenis.