Jazz Richards

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Jazz Richards

Richards yn chwarae i Abertawe yn 2013
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnAshley Darel "Jazz" Richards
Dyddiad geni (1991-04-12) 12 Ebrill 1991 (28 oed)
Man geniAbertawe, Cymru
Taldra6 tr 1 modf (1.85 m)
SafleAmddiffynwr/Cefnwr/Canolwr
Y Clwb
Clwb presennolAbertawe
Rhif29
Gyrfa Ieuenctid
2005–2007Caerdydd
2007–2009Abertawe
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2009–Abertawe39(0)
2013Crystal Palace (benthyg)11(0)
2013Huddersfield Town (benthyg)9(0)
2015Fulham (ar fenthyg)14(0)
Tîm Cenedlaethol
2007–2008Cymru dan 1710(0)
2008–2009Cymru dan 1911(0)
2009–2012Cymru dan 2115(0)
2012–Cymru5(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 24 Mai 2015 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 12 Mehefin 2015 (UTC)

Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Jazz Richards (ganwyd Ashley Darel Jazz Richards 12 Ebrill 1991). Mae'n chwarae fel amddiffynwr i Fulham, a thîm cenedlaethol Cymru.

Gyrfa Clwb[golygu | golygu cod y dudalen]

Abertawe[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwnaeth Richards ei ymddangosiad cynytaf i Abertawe yn 18 mlwydd oed mewn gêm yn Y Bencampwriaeth yn erbyn Middlesbrough ar 15 Awst 2009[1]. Ar ddiwedd y tymor, ar ôl 15 ymddangosiad yn y tîm cyntaf, cafodd ei enwebu'n Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn ac arwyddodd gytundeb dwy flynedd gyda'r clwb[2].

Ar 15 Hydref 2011, chwaraeodd Richards ei gêm gyntaf yn Uwch Gynghrair Lloegr[3] ond er ymestyn ei gytundeb ymhellach, ymunodd Richards â Crystal Palace ar fenthyg yn Ionawr 2013[4] gan helpu'r clwb o Lundain i sicrhau dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor.

Ar ôl dychwelyd i Abertawe, aeth ar fenthyg unwaith eto ym Medi 2013 gan ymuno â Huddersfield Town am dri mis.

Fulham[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng Ngorffennaf 2015, ar ôl cyfnod ar fenthyg gyda Fulham[5][6], ymunodd Richards â'r clwb o orllewin Llundain yn barhaol[7].

Gyrfa Rhyngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl cynrychioli timau dan 17, dan 19 a dan 21 Cymru, gwnaeth Richards ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico ar 27 Mai 2012[8].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]