Tîm pêl-droed cenedlaethol Mecsico
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Mecsico (Sbaeneg: Selección de fútbol de México) yn cynrychioli Mecsico yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Bêl-droed Mecsico (FMF), corff llywodraethol y gamp ym Mecsico. Mae'r FMF yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Gogledd a Chanol America a'r Caribî (CONCACAF) (Saesneg: Confederation of North, Central American and Caribbean Association Football).
Mae El Tricolor yn chwarae eu gemau cartref yn Estadio Azteca, Ninas Mecsico ac wedi cynnal Cwpan y Byd ar ddau achlysur; ym 1970 a 1986.
Roedd Mecsico hefyd yn rhan o'r gêm gyntaf erioed yng Nghwpan y Byd wrth wynebu Ffrainc ar 13 Gorffennaf 1930.