James Chester
| Gwybodaeth Bersonol | |||
|---|---|---|---|
| Enw llawn | James Grant Chester[1] | ||
| Dyddiad geni | 23 Ionawr 1989 | ||
| Man geni | Warrington, Lloegr | ||
| Taldra | 1.81m | ||
| Safle | Amddiffynnwr | ||
| Gyrfa Ieuenctid | |||
| 2005–2007 | Manchester United | ||
| Gyrfa Lawn* | |||
| Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
| 2007–2011 | Manchester United | 0 | (0) |
| 2009 | → Peterborough United (benthyg) | 5 | (0) |
| 2009 | → Plymouth Argyle (benthyg) | 3 | (0) |
| 2010–2011 | → Carlisle United (benthyg) | 18 | (2) |
| 2011–2015 | Hull City | 156 | (7) |
| 2015 | West Bromwich Albion F.C. | 0 | (0) |
| 2016–2020 | Aston Villa | 119 | (12) |
| 2020 | → Stoke City (benthyg) | 16 | (0) |
| 2020–2022 | Stoke City | 49 | (0) |
| 2022–2023 | Derby County | 7 | (0) |
| 2023–2024 | Barrow | 38 | (2) |
| 2024–2025 | Salford City | 0 | (0) |
| Cyfanswm | 424 | (23) | |
| Tîm Cenedlaethol | |||
| 2014–2018 | Cymru | 35 | (0) |
| * Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). | |||
Chwaraewr pêl-droed o Gymru yw James Chester (ganwyd James Grant Chester 23 Ionawr 1989). Mae'n chwarae i West Bromwich Albion F.C. a thîm cenedlaethol Cymru.
Dechreuodd ei yrfa gydag Academi Manchester United a gwnaeth ei unig ymddangosiad i'r tîm cyntaf fel eilydd yn ail gymal rownd gynderfynol Cwpan Cynghrair Lloegr yn erbyn Derby County yn 2009[2].
Wedi cyfnodau ar fenthyg gyda Peterborough United, Plymouth Argyle a Carlisle United symudodd Chester i Hull City yn Ionawr 2011 am ffi o £300,000[3].
Sgoriodd y gôl agoriadol i Hull City yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr ym Mai 2014, ond colli 3-2 yn erbyn Arsenal oedd hanes y Tigers[4].
Ym Mai 2014, cyhoeddodd Chester ei fod eisiau chwarae dros Gymru - roedd yn gymwys gan bod ei fam yn dod o'r Rhyl[5] a cafodd ei gap cyntaf yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Yr Iseldiroedd ar 4 Mehefin 2014.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Professional retain list & free transfers 2012/13" (PDF). The Football League. 18 Mai 2013. t. 16.
- ↑ "Man Utd 4-2 Derby County". bbc.co.uk. 20 Ionawr 2009.
- ↑ "Hull City sign Manchester United defender James Chester". bbc.co.uk. 7 Ionawr 2011.
- ↑ "Arsenal 3-2 Hull City". bbc.co.uk. 17 Mai 2014.
- ↑ "Chester i Gymru?". Golwg360. 7 Mai 2014.