Ben Davies, Pant-teg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ben Davies)
Ben Davies, Pant-teg
Ben Davies ac Elfed (enillwyr y goron a'r gadair Eisteddfod 1894)
Ganwyd1864 Edit this on Wikidata
Cwmllynfell Edit this on Wikidata
Bu farw2 Ionawr 1937 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg Bala-Bangor Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, gweinidog yr Efengyl, glöwr Edit this on Wikidata

Gweinidog a bardd Cymraeg oedd Ben Davies (18642 Ionawr 1937).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed ef yn y Ddolgam, Cwmllynfell, ac wedi gadael yr ysgol yn 13 oed, bu'n gweithio fel glöwr hyd nes iddo fynd i ysgol baratoi Llansawel, Sir Gaerfyrddin yn 1885, yna i Goleg y Bala. Ordeiniwyd ef yn weinidog gyda'r Annibynwyr, a bu'n weinidog Bwlchgwyn a Llandegla, yna'n weinidog Panteg, Ystalyfera. Bu'n gadeirydd Undeb yr Annibynwyr yn 1928.

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

Dechreuodd farddoni yn ieuanc, ac roedd wedi meistroli'r gynghanedd erbyn ei fod yn 13eg oed. Roedd yn aelod amlwg o symudiad y Beirdd Newydd. Enillodd nifer o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol; y Goron yn Rhyl 1892, Pontypridd 1893 a Chaernarfon 1894, a'r gadair yn Llandudno 1896.

Gweithiau[golygu | golygu cod]

  • Bore Bywyd (1896)