Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Undeb yr Annibynwyr)
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Enghraifft o'r canlynolsefydliad crefyddol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1872 Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolCymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tŷ John Penri, Abertawe

Undeb yr Annibynwyr yw'r Undeb gwirfoddol o eglwysi Annibynnol Cymraeg, yng Nghymru a Lloegr, sy'n cydlynu gweithgarwch a thystiolaeth yr Annibynwyr. Fe'i sefydlwyd yn Abertawe ym 1871 a chynhaliodd ei Gyfarfodydd Blynyddol cyntaf yng Nghaerfyrddin ym 1872. Y Parchg Jill-Hailey Harries yw'r Llywydd ar hyn o bryd (2018-20) a'r Parch Dyfrig Rees yw'r Ysgrifennydd Cyffredinol (2018- ).

Mae swyddfa'r Undeb, sef Tŷ John Penri, ar gyrion dinas Abertawe, yn agos i Gyffordd 45 ar yr M4, ac mae dros 400 o eglwysi yn perthyn iddo (2019).

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.