Ben Davies, Pant-teg
Gwedd
| Ben Davies, Pant-teg | |
|---|---|
| Ganwyd | 1864 Cwmllynfell |
| Bu farw | 2 Ionawr 1937 Llundain |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | bardd, gweinidog yr Efengyl, glöwr |
Gweinidog a bardd Cymraeg oedd Ben Davies (1864 – 2 Ionawr 1937).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed ef yn y Ddolgam, Cwmllynfell, ac wedi gadael yr ysgol yn 13 oed, bu'n gweithio fel glöwr hyd nes iddo fynd i ysgol baratoi Llansawel, Sir Gaerfyrddin yn 1885, yna i Goleg y Bala. Ordeiniwyd ef yn weinidog gyda'r Annibynwyr, a bu'n weinidog Bwlchgwyn a Llandegla, yna'n weinidog Panteg, Ystalyfera. Bu'n gadeirydd Undeb yr Annibynwyr yn 1928.
Barddoniaeth
[golygu | golygu cod]Dechreuodd farddoni yn ieuanc, ac roedd wedi meistroli'r gynghanedd erbyn ei fod yn 13eg oed. Roedd yn aelod amlwg o symudiad y Beirdd Newydd. Enillodd nifer o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol; y Goron yn Rhyl 1892, Pontypridd 1893 a Chaernarfon 1894, a'r gadair yn Llandudno 1896.

Gweithiau
[golygu | golygu cod]- Bore Bywyd (1896)
- Siôn Gymro, (Buchedd A Gwaith Y Parch. John Davies, Glandŵr a Moreia, Penfro) (1938)[1]
- Ffrwythau Dethol (1938)