Neidio i'r cynnwys

David Cotterill

Oddi ar Wicipedia
David Cotterill
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnDavid Rhys George Best Cotterill
Dyddiad geni (1987-12-04) 4 Rhagfyr 1987 (38 oed)
Man geniCaerdydd, Cymru
SafleAsgellwr
Gyrfa Ieuenctid
Bryste
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2004–2006Bryste62(8)
2006–2008Wigan Athletic18(1)
2008Sheffield Unedig (ar fenthyg)16(0)
2008–2010Sheffield Unedig38(6)
2009–2010Abertawe (ar fenthyg)4(0)
2010–2012Abertawe31(4)
2011Portsmouth (ar fenthyg)15(1)
2012Barnsley11(1)
2012–2014Doncaster Rovers84(14)
2014–2017Dinas Birmingham103(14)
2017Bryste (ar fenthyg)13(2)
2018ATK3(0)
2020–2021Tref Unedig y Barri28(5)
2021Y Drenewydd8(0)
Cyfanswm434(56)
Tîm Cenedlaethol
2004–2005Cymru dan 193(1)
2005–2007Cymru dan 219(4)
2005–2018Cymru24(2)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Chwaraewr pêl-droed o Gymru yw David Rhys George Best Cotterill (ganwyd 4 Rhagfyr 1987). Mae'n chwarae fel asgellwr i Birmingham City ac i Gymru.

Fe'i ganwyd yng Nghaerdydd a chychwynodd ei yrfa gyda Bristol City cyn symud i fyny i Wigan Athletic F.C. a oedd yn chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr ac yna Sheffield United F.C., ar fenthyciad i ddechrau ac yna'n barhaol. Oddi yno trosglwyddodd Cotterill i Abertawe cyn treulio ysbaid ar fenthyciad i Portsmouth ac yna i Barnsley. Oddi yno aeth i Doncaster Rovers am ddau dymor cyn ymuno gyda Birmingham.

Fel aelod o Dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, ymddangosodd dros ugain o weithiau gan sgorio ddwywaith.

Dinas Birmingham

[golygu | golygu cod]

Roedd Doncaster wedi cynnig cytundeb newydd iddo ar ddiwedd tymor 2013-14 ond dewisiodd Birmingham, er mwyn iddo fod yn nes at ei deulu, sy'n byw yng Nghymru. Arwyddodd gytundeb ddwy flynedd gyda'r Clwb,[1] a'i gêm gyntaf oedd yn erbyn Caergrawnt ar 12 Awst. Cafodd ei ddewis yn rheolaidd a sgoriodd ei gôl gyntaf yn erbyn Fulham ar 27 Medi o bellter o dros 28 metr.[2] Yn y gêm ddilynol, yn erbyn Millwall, sgoriodd gôl a gosododd ddwy, o bellter tebyg.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "David Cotterill: Birmingham City sign Doncaster Rovers midfielder". BBC Sport. 24 Mehefin 2014. Cyrchwyd 13 Awst 2014.
  2. Tattum, Colin (27 Medi 2014). "Birmingham City 1 Fulham 2". Birmingham Mail. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2014.
  3. "Millwall 1–3 Birmingham". BBC Sport. 30 Medi 2014. Cyrchwyd 1 Hydref 2014.