Wayne Hennessey
Hennessey yn chwarae i Gymru yn 2011 | |||
| Gwybodaeth Bersonol | |||
|---|---|---|---|
| Enw llawn | Wayne Robert Hennessey | ||
| Dyddiad geni | 24 Ionawr 1987 | ||
| Man geni | Bangor, Gwynedd, Cymru | ||
| Taldra | 1.98m[1] | ||
| Safle | Gôl-geidwad | ||
| Gyrfa Ieuenctid | |||
| 2001–2003 | Manchester City | ||
| 2003–2006 | Wolverhampton Wanderers | ||
| Gyrfa Lawn* | |||
| Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
| 2006–2014 | Wolverhampton Wanderers | 152 | (0) |
| 2006 | → Bristol City (benthyg) | 0 | (0) |
| 2007 | → Stockport County (benthyg) | 15 | (0) |
| 2013 | → Yeovil Town (benthyg) | 12 | (0) |
| 2014–2021 | Crystal Palace | 110 | (0) |
| 2021-2022 | Burnley | 2 | (0) |
| 2022–2025 | Nottingham Forest | 2 | (0) |
| Cyfanswm | 295 | (0) | |
| Tîm Cenedlaethol | |||
| 2002–2004 | Cymru dan 17 | 6 | (0) |
| 2004–2006 | Cymru dan 19 | 7 | (1) |
| 2005–2009 | Cymru dan 21 | 6 | (0) |
| 2007–2023 | Cymru | 109 | (0) |
| * Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). | |||
Chwaraewr pêl-droed o Gymru yw Wayne Robert Hennessey (ganwyd 24 Ionawr 1987). Mae'n chwarae i Nottingham Forest yn Uwch Gynghrair Lloegr a thîm cenedlaethol Cymru.
Gyrfa clwb
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Hennessey gydag Academi Manchester City ond bu rhaid i'r teulu symud o Ynys Môn i fyw yng Nglannau Dyfrdwy er mwyn ei alluogi i deithio i Manceinion[2].
Gadawodd Manchester City pan yn 16 mlwydd oed wedi i'r clwb ffafrio Kasper Schmeichel fel eu dewis cyntaf i'r tîm ieuenctid a symudodd i Wolverhampton Wanderers. Cafodd ei gêm broffesiynol cyntaf tra ar fenthyg gyda Stockport County a llwyddodd i dorri record y Gynghrair Bêl-droed am gadw llechen lan mewn naw gêm yn olynol[3].
Chwaraeodd 166 o gemau i Wolverhampton Wanderers dros gyfnod o wyth tymor, gan gynnwys tri thymor yn Uwch Gynghrair Lloegr cyn symud i Crystal Palace ym mis Ionawr 2014.
Gyrfa ryngwladol
[golygu | golygu cod]Mae Hennessey wedi ennill capiau i dimau cenedlaethol Cymru dan17, dan 19 a dan 21 a llwyddodd i sgorio yn erbyn Twrci dan19 â chic rhydd.[4].
Cafodd ei gap cyntaf i dîm cenedlaethol Cymru fel eilydd ail hanner yn y gêm gyfeillgar ar Y Cae Ras,Wrecsam yn erbyn Seland Newydd ym mis Mai 2007[5]. a casglodd ei 50fed cap yn erbyn Cyprus ym mis Medi 2015[6].
Chwaraeodd ym mhob un o gemau Cymru yn ymgyrch rhagbrofol Pencampwriaeth UEFA Euro 2016, gan ildio pedair gôl yn unig. Cafodd ei gynnwys yng ngharfan 23-dyn Cymru ar gyfer y bencampwriaeth ond bu rhaid iddo fethu'r gêm agoriadol yn erbyn Slofacia oherwydd problem gyda'i gefn[7].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Player Profile: Wayne Hennessey Wolverhampton Wanderers F.C." 2009-08-05. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-10. Cyrchwyd 2014-05-20.
- ↑ "Molineux revived my lost dream". Birmingham Mail. 2007-06-03.
- ↑ "Sky Sports: Hennessey verdict". 2014-01-31. Unknown parameter
|published=ignored (help) - ↑ "Hennessey puts County strikers in shade". Manchester Evening News. 2007-01-16.
- ↑ "Wales v New Zealand". WelshFootballOnline.com. 2007-05-26. Unknown parameter
|published=ignored (help) - ↑ "Cyprus v Wales". WelshFootballOnline.com. Unknown parameter
|published=ignored (help) - ↑ "Euro 2016: Wayne Hennessey ruled out of Wales opener with back spasm". BBC Sport. 2016-06-11.