Ashley Williams (pêl-droediwr)
Williams yn chwarae i Gymru yn 2011 | |||
| Gwybodaeth Bersonol | |||
|---|---|---|---|
| Enw llawn | Ashley Errol Williams[1] | ||
| Dyddiad geni | 23 Awst 1984 | ||
| Man geni | Wolverhampton, Lloegr | ||
| Taldra | 1.83m[1] | ||
| Safle | Amddiffynnwr | ||
| Gyrfa Ieuenctid | |||
| West Bromwich Albion | |||
| Gyrfa Lawn* | |||
| Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
| 2001–2003 | Hednesford Town | 60 | (0) |
| 2003–2008 | Stockport County | 162 | (3) |
| 2008 | → Dinas Abertawe (benthyg) | 3 | (0) |
| 2008–2016 | Dinas Abertawe | 325 | (14) |
| 2016–2019 | Everton | 60 | (2) |
| 2018–2019 | → Stoke City (loan) | 33 | (1) |
| 2019–2020 | Bristol City | 32 | (2) |
| Cyfanswm | 655 | (22) | |
| Tîm Cenedlaethol | |||
| 2008–2019 | Cymru | 86 | (2) |
| * Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). | |||
Chwaraewr pêl-droed o Gymru yw Ashley Williams (ganwyd Ashley Errol Williams 23 Awst 1984). Mae'n chwarae i Everton yn Uwchgynghrair Lloegr ac yn gapten ar dîm cenedlaethol Cymru.
Dechreuodd ei yrfa pêl-droed West Bromwich Albion ond ar ôl cael ei ryddhau yn 16-mlwydd-oed, aeth i chwarae'n lled-broffesiynol gyda Hednesford Town. Yn 2003, er nad oedd yn chwarae'n rheolaidd i Hednesford Town, ymunodd â Stockport County. Ym mis Mawrth 2008, aeth ar fenthyg gydag Abertawe ac ar ôl helpu'r Swans i sicrhau dyrchafiad o Adran Un, ymunodd â'r clwb am £400,000.
Ar ôl chwarae 325 o gemau i Abertawe, ymunodd ag Everton ym mis Awst 2016 am £12m.
Mae'n gymwys i chwarae dros Gymru gan fod teulu ei fam yn hanu o'r Gelli[2].
Gyrfa clwb
[golygu | golygu cod]
Stockport County
[golygu | golygu cod]Roedd Williams yn aelod o Academi West Bromwich Albion ond ar ôl cael ei ryddhau yn 16-mlwydd-oed, aeth i chwarae'n lled-broffesiynol gyda Hednesford Town. Yn 2003, er nad oedd yn chwarae'n rheolaidd i Hednesford Town, ymunodd â Stockport County, oedd yn chwarae yn Ail Adran Cynghrair Lloegr ar y pryd.[3]. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru tra'n chwarae dros Stockport
Dinas Abertawe
[golygu | golygu cod]Ar ôl denu sylw Dinas Abertawe, symudodd i'r Swans ar fenthyg ym mis Mawrth 2008[3] cyn arwyddo cytundeb parhaol ym mis Mehefin 2008 am ffi oddeutu £400,000[4]
Ym mis Gorffennaf 2013, ar ôl bod yn gapten am y rhan fwyaf o gemau Abertawe am y ddau dymor blaenorol, cafodd Williams ei benodi'n gapten parhaol wedi i Garry Monk, oedd wedi bod yn gapten ar y clwb am saith mlynedd, ymddiswyddo o'r rôl.[5]
Everton
[golygu | golygu cod]Ym mis Awst 2016, symudodd Williams i Everton am ffi oddeutu £12m gan arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r clwb o Lerpwl[6].
Stoke City
[golygu | golygu cod]Symudodd o i Stoke City ar fenthyg o Everton ar ddechrau tymor 2018-19.
Gyrfa ryngwladol
[golygu | golygu cod]Mae Williams yn gymwys i chwarae i Gymru oherwydd ei daid sy'n hanu o'r Gelli[2][7]. Cafodd ei gyfle gyda Chymru wedi i gyn reolwr tîm dan-21 Cymru, Brian Flynn ymweld â gêm Stockport County er mwyn gwylio golwr Cymru, Wayne Hennessey, oedd yn chwarae i'r clwb ar y pryd[2].
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Lwcsembwrg mewn gêm gyfeillgar ym mis Mawrth 2008[8] ac arweiniodd ei wlad am y tro cyntaf mewn buddugoliaeth gyfeillgar 3-0 dros Yr Alban yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2009[9]
Ym mis Hydref 2012, cafodd Williams ei benodi'n gapten ar Gymru gan Chris Coleman, yn lle Aaron Ramsey[10] ac arweiniodd Cymru ym Mhencampwriaeth Euro 2016.
Cafodd Williams wobr Chwaraewr y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2009.[11]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Hugman, Barry J., gol. (2010). The PFA Footballers' Who's Who 2010–11. Mainstream Publishing. t. 437. ISBN 978-1-84596-474-0.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Swansea City's Ashley Williams: Cardiff City abuse made me laugh but I know I have to prove myself worthy of Wales because I wasn't born here". WalesOnline. walesonline. 2015-03-23.
- ↑ 3.0 3.1 "Swans sign Stockport's Williams". BBC Sport Online. 27 Mawrth 2008.
- ↑ "Swans complete Williams signing". BBC Sport Online. 22 Mai 2008.
- ↑ "Ashley Williams made Swansea captain". London: Guardian.co.uk. 15 July 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-18. Cyrchwyd 2015-06-20.
- ↑ "Everton yn arwyddo Ashley Williams o Abertawe". BBC Cymru Fyw. BBC Cymru Fyw. 2016-08-10.
- ↑ "Ashley Williams' mum's pride". WalesOnline. 2013-02-24.
- ↑ "Luxembourg v. Wales - Welsh Football Online". welshfootballonline.com. 2008-03-26.
- ↑ "Wales v. Scotland - Welsh Football Online". welshfootballonline.com. 2009-11-14.
- ↑ "Williams to captain Wales". BBC Sport.
- ↑ "Sgorio: Williams yw chwaraewr y flwyddyn". s4c.co.uk. 2009-11-12.