Gareth Bale

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gareth Bale
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnGareth Frank Bale
Dyddiad geni (1989-07-16) 16 Gorffennaf 1989 (31 oed)
Man geniCaerdydd, Cymru
Taldra1.83m [1]
SafleAsgellwr
Y Clwb
Clwb presennolTottenham Hotspur
(ar fenthyg o Real Madrid)
Rhif9
Gyrfa Ieuenctid
2005–2006Southampton
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2006–2007Southampton40(5)
2007-2013Tottenham Hotspur146(32)
2013–Real Madrid171(80)
2020–Tottenham Hotspur (ar fenthyg)0(0)
Tîm Cenedlaethol
2005–2006Cymru dan 177(1)
2006Cymru dan 191(1)
2006–2008Cymru dan 214(2)
2006 –Cymru85(33)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 19 Medi 2020.

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 19 Medi 2020

Pêl-droediwr Cymreig yw Gareth Frank Bale (ganwyd 16 Gorffennaf 1989) sy'n chwarae i Tottenham Hotspur (ar fenthyg o Real Madrid) ac i dîm cenedlaethol Cymru.

Gyrfa Clwb[golygu | golygu cod y dudalen]

Southampton[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd Bale ei yrfa broffesiynol gyda Southampton fel cefnwr chwith ac ar 17 Ebrill 2006, daeth yr ail ieuengaf erioed i chwarae dros y clwb wrth wneud ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Millwall pan yn 16 mlwydd a 275 diwrnod oed. Ar 6 Awst sgoriodd Bale ei gôl gynghrair gyntaf i'r clwb yn erbyn Derby County[2]

Tottenham Hotspur[golygu | golygu cod y dudalen]

Symudodd i Tottenham Hotspur yn 2007 am ffi o £7 miliwn. Yn ystod ei gyfnod gyda Spurs, cafodd ei ddefnyddio'n fwy fwy fel chwaraewr ymosodol gan symud i chwarae yng nghanol y cae. Cafodd ei urddo'n Chwaraewr y Flwyddyn gan y PFA yn 2011 ac yn 2013 enillodd Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn y PFA, Chwaraewr y Flwyddyn y PFA a Chwaraewr y Flwyddyn yr FAW. Cafodd ei gynnwys yn Nhîm y Flwyddyn UEFA yn 2011 a 2013.

Real Madrid[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 1 Medi 2013, ymunodd â Real Madrid yn Sbaen am ffi na chafodd ei ddatgelu. Yn ôl adroddiadau yn y wasg yn Sbaen ac ar orsaf deledu Real Madrid TV, roedd y ffi yn £77 miliwn (€91 miliwn), tra bo'r wasg ym Mhrydain yn awgrymu bod y ffi yn record byd newydd o £85.3 miliwn (€100 miliwn).[3].

Ar 16 Ebrill, sgoriodd Bale y gôl fuddugol wrth i Real Madrid drechu Barcelona yn rownd derfynol y Copa del Rey.[4] Hon oedd 20fed gôl y tymor i Bale, a'r gyntaf mewn gornest El Clásico.[5]

Ar 24 Mai 2014, sgoriodd Bale ei ail gôl yn erbyn Atlético Madrid yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn y 110fed munud o amser ychwanegol - ef yw'r Cymro cyntaf i sgorio yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Gorffennodd ei dymor cyntaf gyda Real Madrid gyda 22 gôl a 16 cynorthwy ym mhob cystadleuaeth.[6]

Ar 30 Hydref 2016, cadarnhawyd fod Gareth Bale wedi arwyddo cytundeb newydd i barhau i chwarae gyda Real Madrid hyd nes 2022.[7]

Yn ystod ei yrfa gyda Real Madrid helpodd y clwb i ennill Cynghrair y Pencampwyr UEFA bedair gwaith, yn 2014, 2016, 2017 a 2018. Yn nhymor 2016-17, er iddo gael anafiadau, roedd yn rhan o fuddugoliaeth y clwb yn La Liga.

Roedd 2019-2020 yn gyfnod rhwystredig iddo yn y clwb ar ôl gorfod eistedd ar y fainc am gyfnodau hir. Ar 19 Medi 2020, cyhoeddwyd ei fod wedi dychwelyd i glwb Tottenham Hotspur ar fenthyg am flwyddyn.[8]

Gyrfa Rhyngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwnaeth Bale ei ymddangosiad cyntaf i Gymru mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Trinidad a Tobago ar 27 Mai 2006[9] gan ddod y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae dros Gymru hyd nes i Harry Wilson dorri'r record yn Nhachwedd 2012.[10]. Roedd Bale yn 16 mlwydd a 315 diwrnod.

Ar 12 Mehefin 2015, sgoriodd Bale unig gôl y gêm ar achlysur ei 50fed cap wrth i Gymru drechu Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd[11].

Ar 11 Mehefin 2016 sgoriodd gôl agoriadol Cymru yn erbyn Slofacia ym Mhencampwriaeth Euro 2016 - y gôl gyntaf erioed gan Gymro ym Mhencampwriaethau Ewrop. Gyda goliau yn erbyn Lloegr a Rwsia llwyddodd Bale i ddod yn brif sgoriwr Cymru ym mhrif bencampwriaethau pêl-droed y byd gan dorri record Ivor Allchurch a rwydodd ddwy gôl yng Nghwpan y Byd 1958 [12][13] Helpodd Gareth Cymru fynd i rownd gyn-derfynol yr Ewros ond collodd Cymru yn erbyn Portiwgal o ddau gôl i ddim.

Ar 22 Mawrth 2018 curodd record Ian Rush am y nifer o goliau a sgoriwyd mewn gemau rhyngwladol, drwy sgorio tair gôl yn erbyn Tsieina, gan ddod a'i gyfanswm goliau i 29.[14]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Real Madrid

Gwobrau[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2006, casglodd Bale Wobr Carwyn James BBC Cymru ar gyfer athletwyr ifanc[15]. Enillodd prif Wobr Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru yn Rhagfyr 2010[16] ac mae wedi ei enwi'n Chwaraewr y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2010, 2011, 2013, 2014, 2015 a 2016.[17][18][19][20].

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Bale ei eni yng Nghaerdydd, Cymru, i'w rieni Frank, gofalwr ysgol, a Debbie, rheolwr gweithrediadau. Mae yn nai i'r cyn-bêl-droediwr, Chris Pike, a oedd yn chwarae i Ddinas Caerdydd. Tra'n tyfu i fyny, ei arwr pêl-droed oedd ei gyd-chwaraewr i Gymru, a seren Manchester United, Ryan Giggs. [23]

Mynychodd Bale Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Roedd yn athletwr brwd ac yn chwarae pêl-droed ochr yn ochr â chapten rygbi Cymru yn y dyfodol, Sam Warburton, [25] rygbi, hoci tra hefyd yn rhagori mewn athletau. [26] Fel bachgen 14-mlwydd-oed, dywedir ei fod yn gallu rhedeg y ras 100 metr mewn 11.4 eiliad. [23] Oherwydd ei sgiliau pêl-droed, roedd yn rhaid i athro AG yr ysgol, Gwyn Morris, ysgrifennu rheolau arbennig oedd yn ei gyfyngu i chwarae pêl-droed un-cyffyrddiad a pheidio â defnyddio ei droed chwith. Tra yn yr Eglwys Newydd, hyfforddwyd Bale yn academi lloeren Southampton yng Nghaerfaddon, er bod peth amheuaeth a fyddai Southampton yn rhoi ysgoloriaeth iddo oherwydd ei daldra.

Er ei fod ar y pryd ddim ond yn 16, bu'n helpu tîm dan 18 yr ysgol i ennill Uwch Gwpan Caerdydd a'r Fro. Gadawodd yr ysgol yn haf 2005 gyda Gradd A mewn Addysg Gorfforol ymhlith ei ganlyniadau TGAU eraill. Yn ei flwyddyn olaf yn yr ysgol, dyfarnwyd iddo wobr yr adran Addysg Gorfforol ar gyfer gwasanaethau i chwaraeon.

Mae Bale yn llwyrymwrthodwr.[21]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Real Madrid C.F. – Official Web Site – Gareth Bale". Realmadrid.com. 1989-07-16.
  2. "Derby 2 Southampton 2". BBC Sport. 2006-08-06.
  3. Gwefan Golwg360
  4. Jurejko, Jonathan (16 April 2014). "Gareth Bale helps Real Madrid beat Barcelona in Copa del Rey". BBC Sport. Cyrchwyd 17 April 2014.
  5. "Gareth Bale: Copa del Rey winner incredible, says Xabi Alonso". BBC. 16 April 2014.
  6. "Player profile - Gareth Bale". ESPN. Adalwyd 26 Mai 2014
  7. "Gareth Bale yn arwyddo cytundeb newydd â Real Madrid". BBC Cymru Fyw. 2016-10-30.
  8. “Dw i ‘nôl” – Gareth Bale yn ymuno â Spurs ar fenthyg am dymor , Golwg360, 19 Medi 2020.
  9. "Bale savours record Wales debut". BBC Sport. 2006-05-28.
  10. "Injured Bale out for three months". BBC Sport. 2007-12-10.
  11. "Bale: cefnogwyr Cymru yw'r gorau yn y byd". Golwg360. 2015-06-13.
  12. "Lloegr 2-1 Cymru". Sgorio. 2016-11-16.
  13. "Rwsia 0-3 Cymru". Sgorio. 2016-11-20.
  14. Gareth Bale a’i hatric yn Tsieina yn torri record Ian Rush , Golwg360, 22 Mawrth 2018.
  15. "Calzaghe scoops BBC Wales honour". BBC Sport. 2006-12-03.
  16. "Gareth Bale wins BBC Wales Sports Personality award". BBC Sport Wales. 2010-12-06.
  17. "Bale yw chwaraewr y flwyddyn". Sgorio. 2013-10-08.
  18. "Gareth Bale Welsh player of the Year 2014". realmadrid.com. 2014-10-07.
  19. "Gareth Bale yw chwaraewr y flwyddyn". Sgorio. 2015-10-06.
  20. "Chwaraewr y Flwyddyn: Pwy ond Gareth Bale?". BBC Cymru Fyw. 2016-11-08.
  21. "Gareth Bale: Home is where the heart is for £85m star". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 20 Mehefin 2015.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.