Neidio i'r cynnwys

Chris Coleman (pêl-droediwr)

Oddi ar Wicipedia
Chris Coleman
Coleman gyda tîm Cymru yn 2016
Manylion Personol
Enw llawn Christopher Coleman
Llysenw Cookie
Dyddiad geni (1970-06-10) 10 Mehefin 1970 (55 oed)
Man geni Abertawe, Baner Cymru Cymru
Clybiau Iau
Manchester City
Clybiau
Blwyddyn
Clwb
Ymdd.*
(Goliau)
1987-1991
1991-1995
1995-1997
1977-2002
Abertawe
Crystal Palace
Blackburn Rovers
Fulham
Cyfanswm
160 (2)
154 (13)
28 (0)
136 (8)
478 (23)
Tîm Cenedlaethol
1992-2002 Cymru 32 (4)
Clybiau a reolwyd
2003-2007
2007-2008
2008-2010
2011-2012
2012-2017
Fulham
Real Sociedad
Coventry City
Larissa
Cymru

1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn
a gyfrodd tuag at y gyngrhair cartref yn unig
.
* Ymddangosiadau

Rheolwr a chyn bêl-droediwr o Gymru yw Christopher "Chris" Coleman, OBE (ganwyd 10 Mehefin 1970 yn Abertawe).

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Cafodd Coleman ei eni yn Abertawe. Roedd ei dad Gwyddelig o Ddulyn.[1]

Cafodd Coleman ei addysg yn Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig Sant Joseff ac yn Ysgol Gatholig Bishop Vaughan.[2] Mae Coleman wedi cael y llysenw “Cookie” ers ei blentyndod, gan fod ei ffrindiau wedi cymharu ei arferion bwyta â’r 'Cookie Monster' o Sesame Street.

Gyrfa chwarae

[golygu | golygu cod]

Dinas Abertawe

[golygu | golygu cod]

Y tîm proffesiynol cyntaf y llofnododd Coleman gontract gydag ef oedd Manchester City, yn 16 oed, er iddo adael y clwb yn ddiweddarach gan nodi hiraeth fel y prif reswm.[3] Yna ymunodd ef â chlwb ei dref enedigol, Dinas Abertawe.

Gwnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf drostynt yn 17 oed, yn hydref 1987. Fe wnaeth bron i 200 o ymddangosiadau i'r clwb o dde Cymru ac fe helpodd i ennill Cwpan Cymru yn 1989 a 1991.[4][5]

Crystal Palace

[golygu | golygu cod]

Ar ôl treulio pedair blynedd gydag Abertawe, cafodd Coleman ei arwyddo gan Crystal Palace yn 1991 am ffi drosglwyddo o tua £270,000 a osodwyd gan dribiwnlys y Gynghrair Pêl-Droed, ynghyd â chanran o unrhyw werthiant yn y dyfodol. Gwnaeth 143 o ymddangosiadau, gan sgorio 16 gôl yn ystod y cyfnod hwnnw – record o 1 ym mhob 9 gêm, a eglurir gan y ffaith fod y rheolwr Steve Coppell yn aml yn defnyddio Coleman fel blaenwr canol dros dro. Gorffennodd Palace yn y 10fed safle yn nhymor cyntaf Coleman ym Mharc Selhurst, ond cwympodd y tîm o'r Uwch Gynghrair newydd yn ei ail dymor (er iddynt gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Gynghrair). Enillodd y clwb ddyrchafiad fel pencampwyr Adran Un, ond aethant yn syth yn ôl i lawr eto er gwaethaf cyrraedd y rowndiau cynderfynol yn y ddau gwpan y tymor hwnnw. Cafodd Coleman ei werthu i Blackburn Rovers, sef pencampwyr cyfredol y gynghrair, am £2.8 miliwn ym mis Rhagfyr 1995. Tra yn Palace, ennillodd ei gap gyntaf dros Cymru ar lefel hŷn.

Yn 2005, pleidleisiodd cefnogwyr Palace dros gynnwys Coleman yn eu Tîm Canmlwyddiant.

Blackburn Rovers

[golygu | golygu cod]

Ymunodd Coleman â phencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr, Blackburn Rovers, am ffi o £2.8 miliwn. Ni lwyddodd Blackburn i gadw teitl yr Uwch Gynghrair a enillon nhw yn 1995, gan orffen yn y seithfed safle, ychydig yn brin o le yng Nghwpan UEFA. Gwnaeth Coleman 28 o ymddangosiadau cynghrair dros ei dymor a hanner gyda’r clwb, ac, ar ôl canfod ei hun y tu allan i’r tîm cychwynnol yn rhy aml (gan ei fod hefyd yn dioddef o anaf parhaol i weyllen ei ffêr), cymerodd y risg o ddisgyn dwy adran er mwyn ymuno â Fulham i ddatblygu ei yrfa ymhellach.

Fulham

[golygu | golygu cod]

Ar y pryd, roedd Fulham, a oedd yn chwarae yn y drydedd adran, yn cael eu hariannu gan y busneswr cyfoethog Mohamed Al-Fayed, ac roeddent yn gallu gwario ffi drosglwyddo record ar gyfer yr adran a’r clwb, sef £2.1 miliwn am Coleman ddiwedd 1997.[6] Daeth yn gapten y clwb yn gyflym, ac arweiniodd Fulham i ddyrchafiad o dan y rheolwr [[Kevin Keegan yn nhymor 1998–99 i’r Adran Gyntaf.

Arhosodd yn gapten ac yn chwaraewr rheolaidd yn y tîm o dan y rheolwr newydd Jean Tigana yn nhymor 2000–01 wrth i Fulham wneud dechrau llwyddiannus i’r ymgyrch. Fodd bynnag, cafodd gyrfa Coleman fwy neu lai ei orffen hanner ffordd trwy’r tymor, ar ôl torri ei goes mewn damwain car ger Bletchingley yn Surrey ar 2 Ionawr 2001, dim ond ychydig ddyddiau cyn gêm Cwpan Lloegr yn erbyn Manchester United.[7] Ni adferodd byth o’r anaf hwn, er iddo chwarae gêm i'r ail dîm ym mis Mawrth 2002, gêm oedd ond yn arwydd nad fyddai byth eto’n chwarae ar y lefel uchaf o bêl-droed. Cyhoeddodd ei ymddeoliad fel chwaraewr yn Hydref 2002, ond arhosodd yn y clwb yng Ngorllewin Llundain fel aelod o’r staff hyfforddi.[8]

Rhyngwladol

[golygu | golygu cod]

Cafodd Coleman ei gapio gan Gymru ar lefel ysgol, ieuenctid, dan-21 a hŷn. Daeth ei unig ymddangosiad cystadleuol mewn pêl-droed ar ôl ei anaf coes i Gymru ar 14 Mai 2002, pan gafodd ei alw i’r garfan i gymryd lle Danny Gabbidon, ac yna daeth ymlaen fel eilydd hwyr am y sgoriwr Robert Earnshaw yn y fuddugoliaeth o 1–0 dros Yr Almaen yn Stadiwm y Mileniwm.

Roedd Coleman hefyd yn gymwys i chwarae dros Iwerddon, trwy ei dad.[1]


Gyrfa fel rheolwr

[golygu | golygu cod]

Fulham

[golygu | golygu cod]

Daeth yn reolwr dros-dro i Fulham ar ddiwedd tymor 2002/2003 ac arwain y tîm o berygl disgyn allan o'r Uwchgynghair. Fe'i benodwyr yn reolwr llawn amser yn mis Mai 2003 a dod yn rholwr ieuengaf erioed yn yr Uwchgyngrhair. Cafod ei ddiswyddo yn Ebrill 2007 yn dilyn rhediad o saith gêm heb fuddigoliaeth.

Real Sociedad

[golygu | golygu cod]

Daeth Coleman yn reolwr ar Real Sociedad ar 28 Mehefin 2007. Roedd y clwb newydd ddisgyn o brif adran Sbaen y tymor cynt, ac fe ddechreuodd y tymor yn wael, ond fe wellodd y canlyniadau. Ymddiswyddodd yn Ionawr 2008 gan ddweud nad oedd yn cytuno â gweledigaeth perchennog newydd y clwb.

Coventry City

[golygu | golygu cod]

Penodwyd yn reolwr ar Coventry City yn mis Chwefror 2008 hyd mis Mai 2010.

Sunderland

[golygu | golygu cod]

Wedi gadael ei swydd gyda tîm Cymru cafodd ei benodi fel rheolwr Sunderland yn Nhachwedd 2017. Erbyn diwedd Ebrill 2018 dim ond 5 gêm allan o 29 enillodd y clwb a bydd y tîm yn gostwng i'r Adran Gyntaf yn nhymor 2018/19. Diswyddwyd Coleman o'i swydd ar 29 Ebrill 2018.[9]

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]

Yn Hydref 2016, dyfarnwyd rhyddid Abertawe iddo ac yn Rhagfyr 2016 derbyniodd Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru am arwain ei dîm i rownd gynderfynol Ewrop 2016. Derbyniodd OBE am ei wasanaeth i'r byd pêl-droed yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn Ionawr 2017. Ar 11 Ionawr 2017 derbyniodd Gradd MSc er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.[10] Ar 17 Gorffennaf 2017 derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.[11]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "World Cup qualifiers: Wales manager Chris Coleman's Irish connection". BBC Sport. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 March 2017.
  2. "Chris Coleman offered freedom of home city Swansea after Wales' Euro 2016 heroics". WalesOnline. 18 July 2016.
  3. Taylor, Daniel (16 March 2007). "Coleman in frame for City job". The Guardian. London. Cyrchwyd 24 August 2015.
  4. "Swansea City 5–0 Kidderminster Harriers". Welsh Football Data Archive. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 April 2014. Cyrchwyd 10 March 2010.
  5. "Swansea City 2–0 Wrexham". Welsh Football Data Archive. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 March 2012. Cyrchwyd 10 March 2010.
  6. "Coleman's face fits Keegan's bill". The Guardian. 21 January 1999. Cyrchwyd 18 November 2017.
  7. Harding, Thomas (4 January 2001). "Fulham captain Coleman shatters leg in car crash". The Daily Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 January 2022. Cyrchwyd 18 November 2017.
  8. "Coleman retires after losing injury battle". Wales Online. 3 October 2002. Cyrchwyd 18 November 2017.
  9. Chris Coleman wedi gadael Sunderland , Golwg360, 29 Ebrill 2018.
  10.  Prifysgol Abertawe'n dyfarnu Gradd er Anrhydedd i Christopher Coleman. Prifysgol Abertawe (11 Ionawr 2017). Adalwyd ar 18 Gorffennaf 2017.
  11.  Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor. Prifysgol Bangor (17 Gorffennaf 2017).


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.