David Edwards

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dave Edwards

Edwards (dde) yn chwarae dros Gymru
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnDavid Alexander Edwards
Dyddiad geni (1986-02-03) 3 Chwefror 1986 (32 oed)
Man geniPontesbury, Lloegr[1]
Taldra5 tr 11 modf (1.80 m)[1]
SafleCanol Cae
Y Clwb
Clwb presennolWolverhampton Wanderers
Rhif4
Gyrfa Ieuenctid
1996–2003Shrewsbury Town
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2003–2007Shrewsbury Town120(12)
2007–2008Luton Town19(4)
2008–Wolverhampton Wanderers210(26)
Tîm Cenedlaethol
2006–2008Cymru dan 219(1)
2007–Cymru27(3)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 15:45, 2 Mai 2015 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 21:37, 14 Hydref 2014 (UTC)

Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw David Edwards (ganwyd David Alexander Edwards 3 Chwefror 1986). Mae'n chwarae i Wolverhampton Wanderers yn Adran y Bencampwriaeth o Gynghrair Lloegr a thîm cenedlaethol Cymru.

Gyrfa clwb[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd Edwards ei yrfa fel prentis gyda'i glwb lleol, Shrewsbury Town[2] a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf fel eilydd yng ngêm olaf tymor 2002–03 yn erbyn Scunthorpe United.

Treuliodd bedair tymor yn chwarae'n rheolaidd i'r clwb ond wedi iddo wrthod arwyddo cytundeb newydd yn 2007 cafodd ei adael allan o'r tîm chwaraeodd yn erbyn Bristol Rovers yn rownd derfynol gemau ail gyfle Adran 1[3][4]

Ar 26 Mehefin 2007, ymunodd Edwards â Luton Town[5] ond gyda'r clwb yn dioddef problemau ariannol, derbyniodd Luton gynnig o £675,000 amdano gan Wolverhampton Wanderers ym mis Ionawr 2008[6][7].

Gyrfa rhyngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Edwards yn gymwys i chwarae dros Gymru oherwydd taid Cymreig ac roedd wedi chwarae dros dimau dan 17, dan 19 a dan 21 Cymru cyn iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm llawn yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn 2007[8].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


Sports person stub icon.png Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droediwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.