Llanmadog

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanmadog
Math safle eglwysig amddiffynedig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Llangynydd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.617986°N 4.256301°W Edit this on Wikidata
Eglwys Llanmadog

Pentref bychan a phlwyf eglwysig ar benrhyn Gŵyr yw Llanmadog ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Seisnigiad: Llanmadoc), yn Sir Abertawe. Mae'n rhan o gymuned Llangynydd, Llanmadog a Cheriton.

Gorwedd y pentref ar ben gorllewinol Gŵyr, tua 12 milltir i'r gorllewin o ddinas Abertawe. Y pentref agosaf yw Cheriton ac mae'r unig ffordd i Lanmadog yn rhedeg trwy'r pentref hwnnw.

Cefn yr eglwys o bensaerniaeth ddiddorol.

Llai na filltir 'r gorllewin ceir Bae Broughton gyda'i thraeth tywodlyd eang.

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Llanmadog gan Sant Madog, brawd Sant Cynydd, sefydlwr Llangynydd a cheir croes Geltaidd gyntefig ar faen yn y llan. Darganfuwyd carreg goffa Gristnogol gynnar yn y plwyf gyda'r arysgrif Ladin hon arno:

VECTI FILIVS GVAN HIC IACIT
Gorwedd Vecti fab Guan yma[1]

Genynnau pobl leol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae genynnau'r trigolion lleol yn debyg iawn i drigolion Médoc, Bordeaux ac mae'n bosib fod y gair Madog yn llawer hŷn na Sant Madog, ac yn mynd yn ôl i'r dyddiau pan symudodd llwythi o ardal Bordeaux i'r ardal yma.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000), tud. 379.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


CymruAbertawe.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ddinas a Sir Abertawe. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato