Neidio i'r cynnwys

Y Berwyn

Oddi ar Wicipedia
Y Berwyn
Edrych i gyfeiriad Cadair Berwyn o ben Cadair Bronwen yn y Berwyn
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9211°N 3.4239°W, 52.838821°N 3.606825°W, 52.8667°N 3.4°W Edit this on Wikidata
Map

Cadwyn hir o fryniau sy'n rhedeg rhwng Bwlch y Groes, ger Aran Benllyn, i gyffiniau Corwen a Llangollen yw'r Berwyn. Mae'n ffurfio ffin naturiol rhwng Edeirnion, neu Penllyn (dwyrain Meirionnydd, Gwynedd) a Maldwyn, Powys. Ei bwynt uchaf yw Moel Sych (2,713').

Geirdarddiad

[golygu | golygu cod]

Mae'n bosibl fod yr enw yn golygu "Bryn(iau) Gwyn (ap Nudd)" (Cymraeg Cynnar bre 'hill' yn troi'n ber + Gwyn), yn ôl T. Gwynn Jones ac eraill, ac felly'n dwyn enw Gwyn ap Nudd, brenin Y Tylwyth Teg.[1]

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]
Cadair Berwyn a Llyn Lluncaws

Yn y gorllewin mae'r Berwyn yn dechrau ger Bwlch y Groes, hanner ffordd rhwng pentrefi Mallwyd a Dinas Mawddwy a phentref Llanuwchllyn ar lan Llyn Tegid. Mae'r gadwyn yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain am o gwmpas pymtheg milltir. Y copa cyntaf yw Foel y Geifr, sy'n edrych i lawr ar gronfa dŵr Llyn Efyrnwy a bryniau Powys Fadog. Mae dwy lôn fynydd yn croesi'r ucheldir undonog rhwng y copa hwnnw a Chadair Berwyn (2230'), y gyntaf yn cysylltu Abertridwr ar lan Efyrnwy â'r Bala a'r llall yn mynd o'r Bala i Langynog ac ymlaen i'r Trallwng.

Gorwedd y rhan uchaf o'r Berwyn rhwng Bwlch y Filltir Gerrig ar y lôn olaf honno a Glyndyfrdwy. Mae'r copaon, sydd ddim yn greigiog, yn cynnwys Cadair Berwyn a'i gymydog Moel Sych (2713'), Cadair Fronwen (2572'), Pen-plaenau (1775') a Moel Fferna (2071'). Daw'r Berwyn ei hun i ben uwchlaw Nantyr yng Nglyndyfrdwy, rhwng Corwen a Llangollen.

Nid yw'n gadwyn greigiog, er bod ambell glogwyn, ond yn hytrach mae'n gyfres o foelau agored, grugog iawn, sy'n lle da i adar y mynydd, fel y Cwtiad Aur. Y gadwyn debygach iddi yng Nghymru yw'r Carneddau yng ngogledd Eryri, ond bod y Berwyn yn is a llai syrth.

Ar odrau dwyreiniol y Berwyn ceir sawl llecyn braf diarffordd, fel Llyn Efyrnwy, Pennant Melangell a'i eglwys hynafol, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Pistyll Rhaeadr a Dyffryn Ceiriog. I'r gogledd mae llethrau coediog Coedwig Penllyn, y Bala a Llyn Tegid, Dyffryn Edeirnion a Chorwen.

Bywyd gwyllt

[golygu | golygu cod]

Mae'r ardal yn gartref i sawl rhywogaeth o adar yr ucheldir, gan gynnwys adar ysglyfaeth fel y Boda tinwyn (Circus cyaneus), y Llamsydyn (Falco columbarius), a'r Hebog tramor (Falco peregrinus) (tua 14-18 o bariau bridiau yn achos pob un o'r rhywogaethau hyn, 1-2% o'r cyfanswm poblogaeth yng ngwledydd Prydain), ac felly'n Ardal Warchod Arbennig. Mae bywyd gwyllt arall yn cynnwys tylluanod clustiog, cigfrain, bodaon, ffwlbartiaid a'r plufynnau aur.

Copaon

[golygu | golygu cod]
Lleoliad
Mynyddoedd y Berwyn
EnwCyfesurynnau OSCyfesurynnau Daearyddol
Allt y Gader:SJ149176 map 52.749°N, 3.262°W
Allt y Main:SJ162151 map 52.727°N, 3.242°W
Bryn Du (Y Fawnen):SJ145360 map 52.914°N, 3.272°W
Bryn Gwyn (mynydd):SJ042295 map 52.854°N, 3.424°W
Bryn-llus:SJ085408 map 52.956°N, 3.363°W
Cadair Berwyn:SJ071323 map 52.88°N, 3.381°W
Cadair Berwyn (copa gogleddol):SJ072327 map 52.883°N, 3.38°W
Cadair Bronwen:SJ077346 map 52.9°N, 3.373°W
Cadair Bronwen (copa gogledd-ddwyrain):SJ087352 map 52.906°N, 3.358°W
Carnedd Das Eithin:SJ051238 map 52.803°N, 3.409°W
Cefn Coch:SH923266 map 52.826°N, 3.599°W
Cefn Gwyntog:SH976265 map 52.826°N, 3.521°W
Cefn Gwyntog (copa gogleddol):SH975274 map 52.834°N, 3.522°W
Cerrig Coediog:SJ113386 map 52.937°N, 3.321°W
Craig Berwyn:SJ077335 map 52.891°N, 3.373°W
Craig Rhiwarth:SJ054271 map 52.833°N, 3.405°W
Croes y Forwyn:SJ029210 map 52.777°N, 3.44°W
Cyrniau:SJ062251 map 52.815°N, 3.393°W
Cyrniau Nod:SH988279 map 52.839°N, 3.503°W
Cyrniau y Llyn:SJ000244 map 52.807°N, 3.484°W
Ffordd Gefn (Bryn Gwyn):SJ033240 map 52.804°N, 3.435°W
Foel Cwm Sian Llwyd:SH995313 map 52.869°N, 3.494°W
Foel Dugoed,SH893131 map 52.704°N, 3.639°W
Foel Figenau:SH916284 map 52.842°N, 3.61°W
Foel Goch (Berwyn):SH943290 map 52.848°N, 3.57°W
Foel Tyn-y-fron:SH918257 map 52.817°N, 3.606°W
Foel Wen:SJ099333 map 52.889°N, 3.34°W
Foel Wen (copa deheuol):SJ102330 map 52.886°N, 3.336°W
Foel y Geifr:SH937275 map 52.834°N, 3.579°W
Gallt y Goedhwch:SJ137159 map 52.733°N, 3.279°W
Glan Hafon:SJ080272 map 52.834°N, 3.367°W
Godor:SJ094307 map 52.866°N, 3.347°W
Godor (copa gogleddol):SJ089311 map 52.869°N, 3.354°W
Gyrn Moelfre:SJ184293 map 52.854°N, 3.213°W
Jericho Hill:SJ162202 map 52.772°N, 3.243°W
Mynydd Llanymynech:SJ263221 map 52.791°N, 3.094°W
Lledwyn Mawr:SH905287 map 52.844°N, 3.627°W
Moel Bentyrch,SJ055095 map 52.674°N, 3.399°W
Moel Cae-howel:SH978330 map 52.884°N, 3.52°W
Moel Fferna:SJ116397 map 52.947°N, 3.317°W
Moel Hen-fache:SJ109281 map 52.843°N, 3.324°W
Moel Poethion:SJ082306 map 52.865°N, 3.365°W
Moel Sych:SJ066318 map 52.875°N, 3.389°W
Moel y Fronllwyd:SJ121176 map 52.748°N, 3.303°W
Moel y Gwelltyn:SJ170277 map 52.84°N, 3.233°W
Moel yr Ewig:SJ080317 map 52.874°N, 3.368°W
Moel yr Henfaes:SJ077385 map 52.935°N, 3.374°W
Moel yr Henfaes (Copa Pen Bwlch Llandrillo):SJ089369 map 52.921°N, 3.356°W
Moel yr Henfaes (copa gorllewinol):SJ099374 map 52.926°N, 3.341°W
Mynydd Mawr:SJ132286 map 52.847°N, 3.29°W
Mynydd Mynyllod:SJ002395 map 52.943°N, 3.486°W
Mynydd Tarw:SJ112324 map 52.881°N, 3.321°W
Mynydd y Bryn:SJ217268 map 52.833°N, 3.163°W
Mynydd y Glyn:SJ153222 map 52.79°N, 3.257°W
Mynydd-y-briw:SJ174260 map 52.825°N, 3.227°W
Pen y Berth,SJ081127 map 52.704°N, 3.361°W
Pen y Boncyn Trefeilw:SH962283 map 52.842°N, 3.542°W
Pen y Cerrig Duon:SH953281 map 52.84°N, 3.555°W
Pen-y-coed:SJ226414 map 52.964°N, 3.153°W
Post Gwyn:SJ048293 map 52.852°N, 3.415°W
Rhialgwm:SJ055211 map 52.779°N, 3.402°W
Rhiwaedog-uwch-afon:SH938313 map 52.868°N, 3.579°W
Rhos (Llanarmon Dyffryn Ceiriog):SJ125323 map 52.881°N, 3.301°W
Rhwng y Ddwynant:SH978248 map 52.811°N, 3.517°W
Stac Rhos:SH969279 map 52.838°N, 3.532°W
Tir Rhiwiog:SH929162 map 52.732°N, 3.587°W
Tomle:SJ085335 map 52.891°N, 3.361°W
Trum y Gwragedd:SH941284 map 52.842°N, 3.573°W
Mynydd Feifod:SJ169400 map 52.95°N, 3.238°W
Y Golfa:SJ182070 map 52.654°N, 3.21°W
Y Groes Fagl:SH988290 map 52.848°N, 3.504°W
Yr Allt:SJ242102 map 52.684°N, 3.122°W
Bryn yr OrseddSJ142485 map 53.026°N, 3.28°W
Cyrn-y-BrainSJ208488 map 53.03°N, 3.182°W
Mynydd EglwysegSJ231464 map 53.009°N, 3.147°W
Fron FawrSJ208450 map 52.996°N, 3.181°W
Moel Morfydd (Mynydd Llantysilio)SJ159457 map 53.001°N, 3.254°W
Moel Tan y CoedSJ200439 map 52.986°N, 3.193°W
Moel y Faen (Mynydd Llantysilio)SJ185475 map 53.018°N, 3.216°W
Moel y Gaer, LlandysilioSJ166463 map 53.007°N, 3.244°W
Moel y GamelinSJ176465 map 53.009°N, 3.229°W

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-Custom (1930; arg. new. 1979). Ceir sawl enw lle arall sy'n cynnwys yr elfen 'Gwyn' yn yr ardal.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • T.I. Ellis, Crwydro Meirionnydd (Llandybie, 1954)
  • F. Wynn Jones, Godre'r Berwyn (Caerdydd: Hughes a'i Fab, d.d. = c.1952). Atgofion brodor o Ddyffryn Edeirnion.
  • Ioan Bowen Rees, Dringo Mynyddoedd Cymru (Llandybie, 1965). Pennod ar y Berwyn.