Moel yr Henfaes

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Moel yr Henfaes
Cairn on 621 m height looking towards Moel Fferna - geograph.org.uk - 648609.jpg
Math Mynydd, safle archaeologeol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Y Berwyn Edit this on Wikidata
Sir Sir Ddinbych Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Uwch y môr 621 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.9009°N 3.3737°W Edit this on Wikidata
Amlygrwydd 35 metr Edit this on Wikidata

Bryn sy'n safle carnedd gylchog o Oes yr Efydd ydy Moel yr Henfaes, Cynwyd, Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ074387.

Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 551metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 584m (1916tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 10 Tachwedd 2008.

Y garnedd gylchog[golygu | golygu cod y dudalen]

Math o garnedd gynhanesyddol a godwyd gan y Celtiaid ydy “carnedd gylchog”. (Saesneg: ring cairn); fe'i codwyd i nodi mangre arbennig, ar gyfer defodau neu i goffau'r meirw, a hynny yn Oes yr Efydd, mae'n debyg.

Ni ddylid cymysgu'r math hwn gyda chylch cerrig, sy'n perthyn i oes wahanol. Caiff ei nodi ar fapiau'r Ordanance gyda'r gair 'Cairn'. Sylwer, hefyd, mai “carnedd gylchog” ydy'r term sy'n cael ei ddefnyddio yng ngeiriadur yr Academi, yn hytrach na "charnedd gylch".

Cofrestrwyd yr heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: DE299.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]