Moel Sych

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cyfesurynnau: 52°53′N 3°23′W / 52.88°N 3.39°W / 52.88; -3.39
Moel Sych

(Y Berwyn)
Llyn Lluncaws o gopa Moel Sych
Cyfieithiad
Iaith Cymraeg
Testun y llun Llyn Lluncaws o gopa Moel Sych
Uchder (m) 827
Uchder (tr) 2713
Amlygrwydd (m) 32
Lleoliad rhwng y Bala a'r Trallwng
Map topograffig Landranger 125;
Explorer 255
Cyfesurynnau OS SJ066318
Gwlad Cymru
Dosbarthiad Hewitt a Nuttall
Moel Sych is located in Cymru
Moel Sych (Cymru)

Yn o gopaon uchaf Mynyddoedd y Berwyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Moel Sych. Saif ar y ffin rhwng Powys a Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ066318. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 795metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Mae rhywfaint o amheuaeth pa un ai Moel Sych ynteu Cadair Berwyn ychydig i'r gogledd iddo yw'r mynydd uchaf yn y Berwyn. Yn ôl y map OS diweddar mae'r ddau o'r un uchder metrig, 827 medr. Yn ôl yr hen fap OS, lle roedd yr uchder yn cael ei roi mewn trodfeddi, roedd Moel Sych droedfedd yn uwch. Fodd bynnag dywedir nad yw'r garnedd ar Gadair Berwyn ar bwynt uchaf y mynydd, a'i fod mewn gwirionedd ychydig fedrau'n uwch na Moel Sych.

Saif Moel Sych ar brif grib y Berwyn, gyda Llyn Lluncaws ar ei lechweddau dwyreiniol. Gellir ei ddringo o Milltir Gerrig ar y ffordd o'r Bala i Langynog neu ar hyd llwybr sy'n dechrau ger Pistyll Rhaeadr, ar ochr ddeheuol y mynydd, ac yn mynd heibio Llyn Lluncaws.

Y copa[golygu | golygu cod y dudalen]

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 827m (2713tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Hydref 2001.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]