Cadair Berwyn

Oddi ar Wicipedia
Cadair Berwyn
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Berwyn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr832 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.8806°N 3.38099°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ0716532355 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd346 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaCadair Berwyn Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddY Berwyn Edit this on Wikidata
Map

Mae Cadair Berwyn (neu Cader Berwyn) yn fynydd ym Mynyddoedd y Berwyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ar y ffin rhwng Powys a Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ071323. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 486metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Saif Cadair Berwyn ar brif grib y Berwyn, gyda Moel Sych i'r de a Cadair Bronwen i'r gogledd. Ychydig i'r gogledd o'r copa mae Craig Berwyn, ac i'd de o'r copa mae Craig y Llyn. Mae Llyn Lluncaws wrth ei droed.

Llwybrau[golygu | golygu cod]

Y ffordd hawddaf i ddringo Cadair Berwyn yw trwy ddringo Moel Sych gyntaf, un ai o Milltir Gerrig ar y ffordd o'r Bala i Langynog neu ar hyd llwybr sy'n dechrau ger Pistyll Rhaeadr ac yn mynd heibio Llyn Lluncaws.

Dosbarthiad ac uchder[golygu | golygu cod]

Mae rhywfaint o amheuaeth pa un ai Cadair Berwyn ynteu Moel Sych ychydig i'r de iddo yw'r mynydd uchaf yn y Berwyn. Yn ôl y map OS diweddar mae'r ddau o'r un uchder metrig, 827 medr. Yn ôl yr hen fap OS, lle roedd yr uchder yn cael ei roi mewn trodfeddi, yr oedd Moel Sych droedfedd yn uwch. Fodd bynnag dywedir nad yw'r garnedd ar Gadair Berwyn ar bwynt uchaf y mynydd, a'i fod mewn gwirionedd ychydig fedrau'n uwch na Moel Sych.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 830m (2723tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 15 Tachwedd 2010.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]