Moel Fferna
| Math | mynydd, copa |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Y Berwyn |
| Gwlad | y Deyrnas Unedig |
| Uwch y môr | 630 metr |
| Cyfesurynnau | 52.94827°N 3.3159°W |
| Cod OS | SJ1168339800 |
| Manylion | |
| Amlygrwydd | 105 metr |
| Rhiant gopa | Cadair Berwyn |
| Cadwyn fynydd | Y Berwyn |
![]() | |
Copa mwyaf gogleddol mynyddoedd Y Berwyn yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Moel Fferna. Saif ychydig i'r de o'r briffordd A5, i'r de-orllewin o bentref Glyndyfrdwy, ar y ffin rhwng Sir Ddinbych a Bwrdeistref Sirol Wrecsam; cyfeiriad grid SJ116397. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 525metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Mae Afon Ceiriog yn tarddu ar lechweddau deheuol Moel Fferna, lle mae Afon Ceiriog Ddu yn tarddu a llifo tua'r de. Ar un adeg roedd y diwydiant llechi yn bwysig yma, gyda chwarel Glyndyfrdwy ar lechweddau Moel Fferna yn un o chwareli pwysicaf gogledd-ddwyrain Cymru.
Y copa
[golygu | golygu cod]Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt, Nuttall a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 630m (2067tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 20 Tachwedd 2009.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
