Dyffryn Edeirnion
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Dyffryn ym mryniau de Sir Ddinbych yw Dyffryn Edeirnion (cyfeiriad grid SJ0339). Mae'n gorwedd i'r dwyrain o'r Bala. Rhed afon Dyfrdwy trwyddo. Rhed y B4401 trwy'r dyffryn.
Mae'r dyffryn yn gorwedd wrth droed llethrau gorllewinol Y Berwyn. Mae'n dechrau yng nghyffiniau Llandderfel wrth i afon Dyfrdwy lifo i lawr o gyfeiriad Llyn Tegid a'r Bala ar gwrs gogledd-ddwyreiniol, ac yn ymestyn i gyffiniau Corwen a Charrog, lle mae'r afon yn troi i gyfeiriad y dwyrain ac yn llifo i lawr i Ddyffryn Llangollen.
Pentrefi yn y dyffryn (o'r gorllewin i'r dwyrain):
Yn yr Oesoedd Canol gorweddai'r dyffryn yng nghantref Edeirnion. Cysylltir yr ardal ag Owain Glyndŵr. Mae'n un o gadarnleoedd y Gymraeg ac yn rhan o ardal Y Pethe, chwedl Llwyd o'r Bryn.