Moel y Gaer, Llandysilio

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

53°01′N 3°14′W / 53.01°N 3.24°W / 53.01; -3.24 (Moel y Gaer, Cefn (bryngaer).)

Moel y Gaer, Cefn (bryngaer)
Moel y Gaer, Cefn
Moel y Gaer, Cefn, Bryneglwys
Moel y Gaer
Mynydd Llandysilio
Moel y Gaer o Foel y Gamelin
Llun Moel y Gaer o Foel y Gamelin
Uchder
Lleoliad {{{lleoliad}}}
Gwlad Cymru

Bryn a bryngaer yn Sir Ddinbych yw Moel y Gaer. Mae'n gorwedd yn ne-ddwyrain y sir rhwng Moel Morfydd and Moel Gamelin, tua 4.5 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Llangollen, yng nghymuned Llandysilio-yn-Iâl a thua 3 milltir i'r gogledd o bentref bychan Llandysilio ei hun. Mae'n rhan o'r gyfres o fryniau canolig eu huchder a adnabyddir fel Mynydd Llandysilio ac sy'n gorwedd rhwng y ffyrdd A5104 i'r gogledd, yr A542 i'r dwyrain a'r A5 i'r de. Lleoliad: cyfeiriad grid SJ167463 .

Bryngaer[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir bryngaer 1.1 hectar ar gopa'r bryn[1] sy'n dyddio o Oes yr Haearn. Mae'n cynnwys 0.8 hectar o dir. Amgylchinir y tir hwn gan glawdd hyd at 3.1 metr o uchder gyda mynedfa 20 metr o hyd sy'n troi i mewn trwy'r clawdd. O flaen y clawdd ar ochr y gogledd ceir ffos amddiffynnol. O fewn y gaer ceir safleoedd tua wyth o gytiau ond maent yn anodd i'w gweld oherwydd y grug a llus sy'n eu gorchuddio. Fel yn achos Moel y Gamelin, i'r de, mae rhan o'r gaer wedi cael ei erydu gan gerddwyr a beicwyr.[2]

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: DE126.[3] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[4] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[5]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Coflein
  2. Helen Burnham, Clwyd and Powys, yn y gyfres A Guide to Ancient and Historic Wales (Cadw/HMSO, 1995), tud. 64.
  3. Cofrestr Cadw.
  4. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  5. Gwefan CPAT


Bryngaerau Cymru Caer Seion 01.JPG
Yr Alltwen | Braich-y-Dinas | Breiddin | Bryn Euryn | Bryn Myrddin | Bwrdd Arthur | Caerau Gaer | Caer Bach | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Fawr (Llangadog) | Caer Gwrtheyrn | Caer Seion | Caer y Twr | Carn Fadryn | Castell Cawr | Castell Degannwy | Castell Dinas | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Olwen | Castell Tinboeth | Craig yr Aderyn | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Mawr | Dinas Powys | Dinas Tŷ Du | Dinorben | Dinorwig | Foel Drygarn | Ffridd Faldwyn | Gaer Fawr | Garn Boduan | Garn Saethon | Llanymynech | Moel Arthur | Moel Fenlli | Moel Goedog | Moel Hiraddug | Moel y Gaer (Bodfari) | Moel y Gaer (Llanbedr) | Moel y Gaer (Llandysilio) | Moel y Gaer (Rhosesmor) | Mynydd y Gaer | Pen Dinas (Aberystwyth) | Pen Dinas (Mynydd Gorddu) | Penycloddiau | Pen y Corddyn | Pen-y-gaer (Llanaelhaearn) | Pen-y-gaer, Caerhun | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm