Llandysilio-yn-Iâl
| Math | cymuned |
|---|---|
| Poblogaeth | 421, 424, 472 |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 2,797.76 ha |
| Cyfesurynnau | 52.983°N 3.203°W |
| Cod SYG | W04000168 |
| Cod post | LL20 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Etholaeth y Senedd | Clwyd |
| Etholaeth y DU | Simon Baynes (Ceidwadwyr) |
![]() | |
- Am lleoedd eraill o'r enw "Llandysilio", gweler Llandysilio (gwahaniaethu).
Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llandysilio-yn-Iâl(
ynganiad ) (hefyd: Llantysilio ar fapiau Saesneg). Saif i'r gogledd o dref Llangollen, o gwmpas y briffordd A452 ac yn ymestyn i gynnwys Bwlch yr Oernant. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 472.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'r gymuned yn cynnwys nifer o hynafiaethau, yn enwedig Croes Eliseg, colofn sy'n coffhau Elisedd ap Gwylog (bu farw c. 755), brenin Powys. Codwyd y golofn gan or-ŵyr Elisedd, Cyngen ap Cadell. Gerllaw mae gweddillion Abaty Glyn-y-groes. Ym mynwent Eglwys Sant Tysilio y claddwyd y gwleidydd Rhyddfrydol George Osborne Morgan (1826 - 1897).

Mae olion hen chwareli llechi o fewn tafliad carreg i'r pentref hefyd. Moel y Gamelin ydy enw'r mynydd y tu ôl i'r pentref, rhan o gadwyn isel a elwir yn Fynydd Llandysilio. Ceir bryngaer Moel y Gaer hefyd.
Eglwys Sant Tysilio
[golygu | golygu cod]Mae Eglwys Sant Tysilio yn adeilad cofrestredig Gradd II* oherwydd fod ynddi llawer o drawstia a tho ac waliau sy'n dyddio'n ôl i'r canoloesoedd. Mae un o'r ffenestri lliw hefyd cyn hyned (15g) - llun melyn o Sant Iago.
Oriel
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dinas
Llanelwy
Trefi
Corwen · Dinbych · Llangollen · Prestatyn · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl
Pentrefi
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryneglwys · Bryn Saith Marchog · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion
