Glan Hafon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Glan Hafon
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru

Bryn 607 metr sy'n safle carnedd gylchog o Oes yr Efydd ydy Glan Hafon (Glan-hafon ar y map OS), yng nghymuned Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys; cyfeiriad grid SJ080272. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 524metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Y garnedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Math o garnedd gynhanesyddol a godwyd gan y Celtiaid ydy “carnedd gylchog”. (Saesneg: ring cairn); fe'i codwyd i nodi mangre arbennig, ar gyfer defodau neu i goffau'r meirw, a hynny yn Oes yr Efydd, mae'n debyg.

Ni ddylid cymysgu'r math hwn gyda chylch cerrig, sy'n perthyn i oes wahanol. Caiff ei nodi ar fapiau'r Ordanance gyda'r gair 'Cairn'. Sylwer, hefyd, mai “carnedd gylchog” ydy'r term sy'n cael ei ddefnyddio yng ngeiriadur yr Academi, yn hytrach na "charnedd gylch".

Cofrestrwyd yr heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: MG302.[1]

Y copa[golygu | golygu cod y dudalen]

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Is-Hewitt a Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[2] Uchder y copa o lefel y môr ydy 608m (1995tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 10 Mawrth 2007.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]