Bwlch y Groes

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bwlch y Groes
Math Ffordd, Bwlch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.7958°N 3.6131°W Edit this on Wikidata
Yr olygfa'n edrych tua'r dwyrain o Fwlch y Groes
Bwlch y Groes: yr olygfa i gyfeiriad Dinas Mawddwy.

Bwlch y Groes yw'r rhan uchaf o'r ffordd fechan sy'n cysylltu Dinas Mawddwy a Llanuwchllyn yng Ngwynedd. Ambell dro gelwir y bwlch yn Hellfire pass yn Saesneg. Ar un adeg defnyddid y ffordd yma gan gwmni moduron Austin a Standard Triumph i arbrofi gyda cheir newydd.

O ben y bwlch ceir golygfa o ddyffryn Afon Dyfi, Cadair Idris ac Aran Fawddwy. I'r gogledd-ddwyrain mae mynyddoedd Y Berwyn yn ymestyn i gyfeiriad Llangollen.

Mae'r bwlch yn dynodi'r ffin rhwng cantref Penllyn a chwmwd Mawddwy. Mae ffin cwmwd Mochnant hefyd o fewn chwarter milltir i'r bwlch. Efallai fod croes yn sefyll arno i nodi hynny yn yr hen amser, neu fod rhywun wedi codi un yno mewn ysbryd diolchgarwch, ond does dim croes yn sefyll yno heddiw.

WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato