William Lucas Collins

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
William Lucas Collins
Ganwyd 23 Mai 1815 Edit this on Wikidata
Bu farw 24 Mawrth 1887 Edit this on Wikidata (71 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth clerig, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Plant William Collins Edit this on Wikidata

Roedd William Lucas Collins (23 Mai, 181524 Mawrth, 1887), yn offeiriad Eglwys Loegr ac awdur Cymreig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Collins yn Oxwich, Bro Gŵyr yn blentyn i John Collins, rheithor Llanilltud Gŵyr, ac Elizabeth (née Lucas) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn ysgol Rugby a Choleg yr Iesu, Rhydychen lle graddiodd gyda gradd BA yn y clasuron ym 1838 a gydag MA ym 1840.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei ordeinio'n offeiriad ym 1840 a rhoddwyd iddo fywoliaeth Cheriton, Abertawe yn yr un flwyddyn gan ddal y fywoliaeth hyd 1867. Gwasanaethodd Collins fel curad Great Houghton, Swydd Northampton (1853-1862), lle bu yn gwasanaethu fel yr arolygydd addysg esgobaethol. Ym 1867 rhoddwyd bywoliaeth Kilsby, Swydd Northampton iddo. Cyfnewidiodd bywoliaeth Kilsby am reithoriaeth Lowick, ger Thrapston, Swydd Northampton ym 1873, a ddaliodd ar y cyd â bod yn ficer Slipton o 1876 ymlaen. O 1870 roedd hefyd yn ganon anrhydeddus yn Eglwys Gadeiriol Peterborough.[2]

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Anna Frances, merch John Wood, Berthlwyd, Llandeilo, ym 1840. Roedd yr awdur Clifton Wilbraham Collins [3] a'r awdur a chricedwr William Collins [4] yn feibion iddynt.

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ogystal â bod yn glerigwr gwledig cafodd Collins yrfa lenyddol, a ddechreuodd yn fuan ar ôl ei ordeinio pan ddaeth yn gyfrannwr rheolaidd i'r Blackwood's Magazine. Roedd ei erthyglau cynnar yn son am fywyd yn y brifysgol, ond daeth i wneud arbenigedd o erthyglau ar yr ysgolion bonedd hynafol. Anogodd John Blackwood, perchennog y cylchgrawn, ef i ddechrau adolygu; ei adolygiadau craff o nofelau George Eliot oedd ei waith mwyaf arwyddocaol.[2]

Bu Collins hefyd yn olygydd cyfres lyfrau lwyddiannus Gwasg Blackwood's, Ancient Classics for English Readers, gan gynnwys bod yn awdur naw cyfrol o'r gyfres. Ym mysg ei gyfraniadau personol i'r gyfres oedd y cyfrolau ar Iliad, Homer (1870) [5] a Thucydides (1878).[6]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn rheithordy Lowick yn 71 mlwydd oed.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Wynebddalen Virgil gan W Lucas Collins

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "COLLINS, WILLIAM LUCAS (1815 - 1887), clerigwr ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-18.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Collins, William Lucas (1815–1887), Church of England clergyman and author | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. Cyrchwyd 2019-11-18.
  3. Venn, John (2011-09-15). Alumni Cantabrigienses: A Biographical List of All Known Students, Graduates and Holders of Office at the University of Cambridge, from the Earliest Times to 1900. Cambridge University Press. ISBN 9781108036122.
  4. "At the Circulating Library Author Information: William Edmund Wood Collins". www.victorianresearch.org. Cyrchwyd 2019-11-18.
  5. Collins, William Lucas. The Iliad.
  6. Collins, William Lucas (1878). Thucydides. William Blackwood.