Y Llyfrgell (ffilm)
| Teitl amgen | The Library Suicides |
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Euros Lyn |
| Cynhyrchydd gweithredol | Gwawr Martha Lloyd, Steve Jenkins, Ed Fletcher, Paul Higgins, Mary Burke, Adam Partridge |
| Cynhyrchydd | Cheryl Keatley-Davies Fflur Dafydd, Euros Lyn |
| Ysgrifennwr | Fflur Dafydd |
| Cerddoriaeth | Dru Masters |
| Sinematograffeg | Dan Stafford Clark |
| Sain | Gareth Meirion Thomas |
| Dylunio | Tom Pearce |
| Cwmni cynhyrchu | Ffilm Ffolyn / Cinematic |
| Dosbarthydd | Soda Pictures |
| Amser rhedeg | 87 munud |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Ffilm Gymraeg yw Y Llyfrgell sy'n addasiad o'r nofel Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd. Dyma ffilm nodwedd gyntaf y cyfarwyddwr Euros Lyn.[1]
Crynodeb
[golygu | golygu cod]Pan mae awdures enwog Elena Wdig yn farw drwy hunanladdiad, mae ei dwy ferch, y llyfrgellwyr Nan ac Ana ar goll hebddi. Mae geiriau olaf Elena yn awgrymu mai ei chofiannydd, Eben a'i lladdodd. Yn ystod un shifft nos mae'r efeilliaid yn mynd ar gyrch i geisio dial am farwolaeth eu mam yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ond yn cael eu hatal gan y porthor nos Dan, sy'n amharod i gymryd rhan yn yr antur.
Cynhyrchiad
[golygu | golygu cod]Cynhyrchwyd y ffilm gan Ffilmiau Ffolyn a cefnogwyd y cynhyrchiad gan gynllun talent Cinematic yr asiantaeth Ffilm Cymru Wales.
Cafodd ei ffilmio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ystod mis Medi 2015. Fe fydd y ffilm yn cael ei ddangos mewn gwyliau ffilm yn 2016 a disgwylir i'r ffilm gael ei ddarlledu ar S4C erbyn 2017.[2]
Cast a chymeriadau [1]
[golygu | golygu cod]- Sharon Morgan - Elena Wdig
- Catrin Stewart - Nan ac Ana
- Ryland Teifi - Eben
- Dyfan Dwyfor - Dan
- Carwyn Glyn - Glyn
Gwobrau
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Gwobr | Digwyddiad | Categori | Derbynnydd | Canlyniad |
|---|---|---|---|---|---|
| Catrin Stewart | Buddugol |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Ffilmio i gychwyn ar nofel boblogaidd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Llyfrgell Genedlaethol Cymru (14 Medi 2015). Adalwyd ar 05 Ionawr 2022.
- ↑ Cyfarwyddwr yn saethu ffilm 'Y Llyfrgell' yn Aberystwyth , BBC Cymru Fyw, 29 Medi 2015. Cyrchwyd ar 23 Mai 2016.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Y Llyfrgell ar wefan Internet Movie Database