Lewis Morris (1833–1907)
Lewis Morris | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
23 Ionawr 1833 ![]() Caerfyrddin ![]() |
Bu farw |
12 Tachwedd 1907 ![]() Penbryn ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Addysg |
Baglor yn y Celfyddydau, Meistr yn y Celfyddydau ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth |
ysgrifennwr, bardd, gwleidydd ![]() |
Perthnasau |
Lewis Morris ![]() |
Gwobr/au |
Marchog Faglor ![]() |
Bardd Eingl-Gymreig oedd Syr Lewis Morris (23 Ionawr 1833 – 12 Tachwedd 1907).
Ganed ef yng Nghaerfyrddin, yn fab i Lewis Edward William Morris a gor-ŵyr Lewis Morris, un o Forysiaid Môn. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, lle graddiodd yn y clasuron 1856; ef oedd y myfyriwr cyntaf mewn 30 mlynedd i gael anrhydedd dosbarth cyntaf yn yr arholiadau rhagarweiniol a therfynol. Daeth yn fargyfreithiwr yn 1861. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Songs of Two Worlds yn 1871, a dilynwyd hi gan nifer eraill. Un o'i gerddi mwyaf adnabyddus yw "Love's Suicide". Bu'n gyd-ysgrifennydd a chyd-drysorydd Coleg Prifysgol Aberystwyth.
Gwnaed ef yn farchog yn 1895. Roedd yn gobethio cael ei ddewis i swydd Bardd Llawryfog (Poet Laureate), ond nis cafodd, efallai oherwydd ei fod yn cymdeithasu ag Oscar Wilde.
Claddwyd ef ym mynwent Llangynnwr ger Caerfyrddin.