Yn y lhyvyr hwnn

Oddi ar Wicipedia
Yn y lhyvyr hwnn
Enghraifft o'r canlynolfersiwn, rhifyn neu gyfieithiad Edit this on Wikidata
AwdurJohn Price Edit this on Wikidata
CyhoeddwrEdward Whitchurch Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1546 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Yn y lhyvyr hwnn, gan Syr John Price (1502–1555), oedd y llyfr Cymraeg argraffedig cyntaf.

Yn ôl y dyddiad ar y ddalen deitl, fe'i gyhoeddwyd yn Llundain ym 1546, ond mai lle i amau na ddaeth o'r wasg tan yn y gynnar ym 1547 (cyn 25 Mawrth). Mae'r ansicrwydd yma am y dyddiad cyhoeddi wedi arwain rhai ysgolheigion, fel Ifor Williams, i ddadlau dros osod Oll synnwyr pen Kembero ygyd gan William Salesbury o flaen y rhestr, am i'r llyfr hwnnw ddod allan ym 1547, ond ar y cyfan tueddir i dderbyn llyfr Price fel y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei gyhoeddi.

Nodir y cynnwys ar ddalen deitl y llyfr:

Yn y lhyvyr hwnn y traethir. / Gwyðor kymraeg. / Kalandyr. / Y gredo, neu bynkeu yr ffyð gatholig. / Y pader, ney weði yr arglwyð. / Y deng air deðyf. / Saith Rinweð yr egglwys. / Y kampeu arveradwy ar Gwyðieu gochladwy ae keingeu. / M.D.XLVI.

Yn y llyfr hwn y traethir / Gwyddor Cymraeg / Calendr / Y gredo, neu bynciau'r ffydd Gatholig / Y pader, neu Weddi'r Arglwydd / Y dengair Deddf / Saith rinwedd yr eglwys / Y campau arferadwy a'r gwydiau gocheladwy a'u ceingau[1]

Yn ogystal â'r deunydd uchod, sef yr wyddor Gymraeg, Credo'r Apostolion a'r Pader a.y.y.b., ceir cyfarwyddyd ynglŷn â darllen Cymraeg a chalendr o wyliau crefyddol pwysig sy'n cynnwys gwybodaeth tymhorol ar gyfer ffermwyr.

Bwriad y llyfr oedd i hyrwyddo Protestaniaeth. Cymerodd yr awdur rhan flaenllaw yn y broses o dorri Eglwys Loegr rhag awdurdod y Pab a ddiddymu'r mynachlogydd. Ystyr y gair Catholig yw cyffredinol, cyson, cywir, ffyddlon [2]. Mae pob defnydd o'r gair "Catholig" yn y llyfr yn rhoi'r ddadl bod Eglwys Loegr wedi etifeddu y mantell Catholig ar gyfer Eglwys Loegr. Cyfeiriad at Eglwys Loegr, nid at yr Eglwys Catholig Rhufeinig yw pob defnydd o'r gair "Catholig" yn y llyfr!

Mae'r unig gopi o'r llyfr sydd wedi goroesi yn cael ei gadw gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Llyfrgell Genedlaethol Cymru – National Library of Wales : Erthygl R. Geraint Gruffydd
  2. Catholigaidd
  3. "Adroddiad Blynyddol / Annual Report 1909" (PDF). National Library of Wales. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2015.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]