Christopher Williams

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Christopher Williams
Ganwyd Christopher David Williams
(1873-01-07)7 Ionawr 1873
Maesteg, Cymru
Bu farw 19 Gorffennaf 1934(1934-07-19) (61 oed)
Llundain, Lloegr
Cenedl Cymro
Enwog am Paentiwr

Roedd Christopher David Williams (7 Ionawr 187319 Gorffennaf 1934) yn arlunydd Cymreig.[1]

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei eni ym Maesteg, Cymru, yn fab i Evan Williams a ddymunai i'w fab fod yn feddyg, ond nid oedd Williams yn hoff o'r syniad! Penderfynodd fod yn arlunydd ar olwedi iddo weld Perseus and Andromeda gan Frederic Leighton (1830–1896) yn y Walker Art Gallery, Lerpwl.

Coleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Astudiodd yn gyntaf yng Nghastell Nedd dan adain Mr. Kerr ac yn hwyrach yng Ngholeg Celf Brenhinol ac Ysgolion yr Academi Frenhinol. Ym 1902, cafodd ei ddarlun, Paolo a Francesca yn ogystal a phortread o'i dad ym 1903, eu harddangos yn yr Academi Frenhinol. Y rhain oedd y cyntaf o 18 o beintiadau ganddo i gael eu harddangos yno. Cafodd ei bortread o Syr Alfred Lyall ei arddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1910 ac o ganlyniad y gwahoddwyd ef gan Gymdeithas Frenhinol Artistiaid Prydeinig i ymuno â'u rhengoedd a bu'n arddangos 37 o baentiadau yn eu Horiel dros y ddegawd nesaf. Bu hefyd yn arddangos yng Nghymdeithas Frenhinol y Peintwyr Portreadau hyd 1930. Oherwydd maint enfawr y lluniau, ychydig iawn ohonyn nhw sy'n cael eu harddangos, ac fe'u cedwir mewn selerydd archifol.[2]

Deffroad Cymru (1911) gan Christopher Williams

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1911, cafodd gomisiwn gan y Brenin Siôr V o Loegr i weithio ar baentiad coffaol o Arwisgiad Edward, Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon. Yn ogystal â mynychu'r seremoni, ymwelodd â Phalas Buckingham, lle eisteddodd y Teulu Brenhinol ar ei gyfer er mwyn cwblhau manylion y llun. Cwblhaodd ddau fersiwn o'r llun hwn.

Ymhlith ei bortreadau oedd rhai o'r Gwir Anrh. David Lloyd George,[3] Syr John Williams, Syr John Rhys,[4] Syr Henry Jones, Syr John Morris-Jones,[5] Dr Stanton Coit, Syr Frederick Mills a John Hinds AS. Peintiodd y cyntaf o dri phortread o Lloyd George yn ystod haf 1911. Disgrifiodd Lloyd George ef fel "un o'r arlunwyr mwyaf dawnus i ddod allan o Gymru".

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, peintiodd The Welsh at Mametz Wood (1920), sydd bellach yn Amgueddfa Cymru.[6]

Peintiodd dair golygfa o'r Mabinogi. Mae Ceridwen (1910) a Branwen (1915) yng nghasgliad Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe. Mae Blodeuwedd (1930) yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd.

Peintiodd lawer o dirluniau yng Nghymru, y Swistir, yr Eidal, Ffrainc, Sbaen, Moroco a'r Iseldiroedd. Ymysg ei darluniau mae The Red Dress yn Amgueddfa Cymru[7] a Holidays – Village Girls at Llangrannog yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn ystod y dyddiau wedi'r rhyfel a than ei farwolaeth, mi wnaeth llawer i ysgogi diddordeb yng nghelf yng Nghymru ac roedd yn feirniad cyson yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn aelod o Bwyllgor y Celfyddydau yn Amgueddfa Cymru a Chyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.

Roedd ganddo gariad mawr at ddynoliaeth a chydymdeimlad ddofn at y gorthrymedig. Cyflwynodd lun mawr o lannau Tafwys o'r enw Why? i Fyddin yr Iachawdwriaeth ychydig cyn ei farwolaeth ym 1934.

Ym 1973, cafodd arddangosfa ei drefnu ar ganmlwyddiant ei enedigaeth yn Amgueddfa Cymru, Oriel Gelf Glynn Vivian a Neuadd Tref Maesteg.

Priododd Emily Appleyard a chawsant dau o feibion, Gwyn ac Ivor. Roedd Gwyn yn seryddwr ac roedd Ivor yn arlunydd hefyd. Roedd yn frawd yng nghyfraith i'r arlunydd Fred Appleyard (1874–1963).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Y Bywgraffiadur Cymreig - WILLIAMS , CHRISTOPHER DAVID. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 14 Ebrill 2016.
  2. Prifysgol Aberystwyth; adalwyd 16 Ebrill 2016
  3. Amgueddfa Cymru: Casgliadau Celf Arlein; adalwyd 12 Rhagfyr 2017.
  4. Amgueddfa Cymru: Casgliadau Celf Arlein; adalwyd 12 Rhagfyr 2017.
  5. Amgueddfa Cymru: Casgliadau Celf Arlein; adalwyd 12 Rhagfyr 2017.
  6. Amgueddfa Cymru: Casgliadau Celf Arlein; adalwyd 12 Rhagfyr 2017.
  7. Amgueddfa Cymru: Casgliadau Celf Arlein; adalwyd 12 Rhagfyr 2017.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]