Henry Jones (athronydd)
Henry Jones | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 30 Tachwedd 1852 ![]() Llangernyw ![]() |
Bu farw | 4 Chwefror 1922 ![]() Tighnabruaich ![]() |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Galwedigaeth | athronydd, llenor, academydd ![]() |
Plant | E. H. Jones ![]() |
Gwobr/au | Cymrawd yr Academi Brydeinig, Marchog Faglor ![]() |
Athronydd o Gymru oedd Syr Henry Jones (30 Tachwedd 1852 – 4 Chwefror 1922).[1]
Magwraeth ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd ef yn Llangernyw, Sir Ddinbych (Sir Conwy heddiw), yn fab i grydd. Astudiodd yng Ngholeg Normal, Bangor a dod yn athro yn Ysgol Elfennol Brynaman yn 1870. Ar ôl penderfynu mynd am y weinidogaeth enillodd ysgoloriaeth y Dr. Williams, ac yn 1875 aeth i Brifysgol Glasgow lle bu Edward Caird yn ddylanwad arno.[1] Graddiodd yn 1878, ac enillodd gymrodoriaeth Clark, a'i galluogodd i astudio ymhellach yn Glasgow am bedair blynedd, a chynnwys cyfnodau byrion yn Rhydychen ac yn yr Almaen.
Bu'n athro athroniaeth ac economi gwleidyddol yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor; athro rhesymeg a metaffiseg ym Mhrifysgol St. Andrews; darlithydd Hibbert ar fetaffiseg yng Ngholeg Manchester, Rhydychen.
Yn 1882 priododd Annie Walker, Kilbirnie.
Gwaith
[golygu | golygu cod]Penodwyd Henry Jones yn ddarlithydd mewn athroniaeth yn Aberystwyth yn 1882 ac yn athro ym Mangor ddwy flynedd wedyn; bu hefyd yn St Andrews yn 1891 ac yn Glasgow, gan lenwi esgidiau gweigion E. Caird yn 1894. Roedd dehongliad Caird o idealiaeth Hegel yn sylfaen i'w athroniaeth, ond cyfrannodd y Beibl a'r prifeirdd hefyd at ei feddwl a'i arddull. Roedd gwerthoedd moesol hefyd yn sylfaen ac arferai bwysleisio anfeidroldeb a meidroldeb dyn.
Ei waith pwysicaf yw ei lyfrau ar Browning (1891), Lotze (1895) ac A Faith that Enquires (1922) — darlithiau Gifford a draddodwyd yn Glasgow rhwng 1920-1.
Bu'n un o aelodau gwreiddiol y Comisiwn Brenhinol ar yr Eglwys yng Nghymru yn 1906, cyn ymddeol blwyddyn yn ddiweddarach.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- A Critical Account of the Philosophy of Lotze (1895)
- Old memories Hunangofiant. Hodder & Stoughton (1900)
- Browning as a Philosophical and Religious Teacher (1891)
- Dinasyddiaeth Bur ac Areithiau Eraill Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru (1911)
- A Faith that Enquires (1922)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Henry Jones, Y Bywgraffiadur Ar-lein.